Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) yn annog rhieni a gofalwyr i rybuddio plant a phobl ifanc am beryglon tresmasu ar ôl sawl digwyddiad yn yr Alban.
Mae'r digwyddiadau'n cynnwys adroddiadau am blant yn chwarae ar y rheilffordd ar y 7fed Gorffennaf ym Mharc Milliken yn Renfrewshire lle adroddwyd eu bod wedi gosod eitemau ar y traciau.
Mewn digwyddiad arall yn ardal Motherwell, anafwyd llanc, wrth geisio dringo ffensys palisâd i adfer ei bêl-droed.
Cofnodwyd sawl adroddiad arall am blant a phobl ifanc yn chwarae'n agos at y llinellau hefyd yn ardal Rutherglen yn Glasgow ac mewn lleoliadau ar draws Fife.
Mae hyn wedi ysgogi BTP i roi rhybudd i rieni a gofalwyr i wirio eu plant i sicrhau nad ydynt yn chwarae ger y rheilffordd.
Dywedodd Arolygydd BTP, Michael Magee: "Mewn perthynas â'r digwyddiadau penodol hyn mae'n destun pryder mawr bod plant ifanc wedi bod yn chwarae ar reilffordd neu'n agos ati.
"Gormod o weithiau rydym wedi gweld canlyniadau trasig pobl ifanc yn anwybyddu'r rhybuddion am dresmasu ar y rheilffordd a chymryd risgiau sydd wedi arwain at anafiadau ofnadwy, felly mae'n hanfodol bod rhieni'n chwarae eu rhan ac yn sicrhau eu bod yn gwybod ble mae eu plant a beth maen nhw'n ei wneud.
"Teithwyr yw ein llygaid a'n clustiau o hyd a gallant ein helpu drwy riportio troseddau a phryderon drwy decstio 61016."
Mae BTP a Network Rail yn cynnal ymgyrch ddiogelwch gadarn, You Vs Train, sy'n amlygu'r canlyniadau dinistriol y gall tresmasu ar y rheilffordd eu cael. Dysgu rhagor am youvstrain.co.uk