Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae bachgen yn ei arddegau wedi’i garcharu am fwy na thair blynedd am gario baton heddlu a heroin a chocên ar ôl iddo gael ei stopio gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yng ngorsaf Euston.
Plediodd Emmanuel Arosomade, 19 oed, o Papermill Place, Walthamstow yn euog i feddu ar gyffuriau Dosbarth A gyda'r bwriad o gyflenwi a
meddu ar arf ymosodol.
Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Llundain Fewnol ar ddydd Iau 30 Mehefin a'i garcharu am 40 mis.
Gorchmynnwyd iddo hefyd dalu gordal dioddefwr o £228.
Clywodd y llys bod swyddogion Tasglu Llinellau Cyffuriau BTP yng Ngorsaf Euston wedi gweld Arosomade ar ddydd Iau Mai 2 yn ceisio byrddio trên i Northampton.
Oherwydd ei ymddygiad pan ddaeth swyddogion mewn dillad plaen ato, penderfynwyd ei gadw a'i chwilio.
Fe wnaeth swyddogion ddarganfod bod Arosomade yn cario baton heddlu metel ym mhoced ei siaced a chlwstwr o gyffuriau wedi'u lapio mewn clingffilm yn nhrowsus ei dracwisg.
Yn ddiweddarach canfuwyd mai crac cocên oedd y cyffuriau gyda gwerth stryd amcangyfrifedig o £1100.
Dywedodd y Swyddog Ymchwilio T/DC Daniel Burke: “Nid yw ceisio cludo llwythi mawr o gyffuriau dosbarth A mewn golwg glir ar y rheilffordd yn syniad da. Mae gennym swyddogion arbenigol sydd wedi'u hyfforddedi'n drwyadl yn gweithio ar draws y wlad fel rhan o’n Tasglu Llinellau Cyffuriau – rydym yn eich gwylio a byddwch yn cael eich dal ac yn wynebu’r canlyniadau.”
