Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn a oeddd yn ymwneud â rhedeg llinell gyffuriau doreithiog ar draws Loughborough wedi’u carcharu am gyfanswm o fwy na naw mlynedd.
Fe wnaeth Manvinder Gill, 23 oed, heb gartref sefydlog, bledio'n euog i ymwneud â chyflenwi crac cocên a heroin a chafodd ei ddedfrydu i bedair blynedd a 10 mis yn y carchar yn Llys y Goron Aylesbury ar ddydd Iau, 3 Hydref.
Gorchmynnwyd iddo hefyd dalu dirwy o £190.
Roedd wedi methu â mynychu ei wrandawiad dedfrydu gwreiddiol yn ôl ym mis Tachwedd 2023 a chyhoeddwyd gwarant i’w arestio.
Cafodd ei ddal ar hap pan wnaeth y swyddog ymchwilio ei stopio ym Maes Awyr Heathrow ym mis Medi eleni oherwydd mater nad oedd yn gysylltiedig.
Fe wnaeth Gill ddarparu manylion ffug i ddechrau, ond ar ôl tynnu ei gwfl a'i fasg wyneb cafodd ei adnabod gan y swyddog a wnaeth ei arestio yn y fan a'r lle am fethu ag ymddangos yn y llys i'w ddedfrydu.
Cafodd dyn arall, Amani Blagrove-Clarke, 25 oed o Meadow Road, Quinton, ei garcharu am bedair blynedd a phedwar mis a chafodd ddirwy o £190 ym mis Tachwedd y llynedd yn yr un llys.
Roedd wedi pledio'n euog i'r un cyhuddiad.
Clywodd y llys sut, ar ddydd Iau 4 Chwefror 2021, y gwelodd swyddogion dillad plaen o dasglu Llinellau Cyffuriau BTP y pâr yng ngorsaf Bedford yn ymddwyn yn amheus pan welson nhw swyddogion mewn iwnifform.
Aeth swyddogion atynt a gofyn pam eu bod yn teithio gan fod cyfyngiadau Covid yn eu lle ar y pryd yn golygu mai dim ond teithiau hanfodol oedd yn cael eu caniatáu.
Gwrthododd y ddau roi eu manylion na datgelu eu rhesymau dros deithio.
Fe wnaeth gwiriad PNC ddatgelu bod yr heddlu'n chwlio am Blagrove-Clarke i'w holi mewn perthynas â throsedd ar wahân a chafodd ei arestio wedi hynny.
Fe wnaeth chwiliad ddatgelu ei fod yn cario dau ffôn symudol ac oddeutu £250 mewn arian parod.
Yn ystod y chwiliad, roedd un o’r ffonau symudol, ffôn llosgwr, yn canu’n gyson a chafodd Blagrove-Clarke ei arestio ymhellach ar amheuaeth o fod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Yn y cyfamser, aeth Gill, a oedd yn cael ei holi gan swyddogion ar wahân, yn ochelgar a cheisiodd gerdded i ffwrdd.
Cafodd ei chwilio a chafwyd ei fod yn cario dwy ffôn symudol, un ohonyn nhw yn ffôn llosgwr a £250 mewn arian parod.
Honnodd Gill nad ei ffôn ef oedd y ffôn llosgwr a'i fod yn ei gario i rywun arall.
Wedyn, cafodd ei arestio hefyd ar amheuaeth o fod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Wrth archwilio'r ffonau daethpwyd o hyd i negeseuon yn ymwneud â gwerthu crac cocên a heroin ar draws Loughborough.
Dywedodd y swyddog ymchwilio PC Frankie Goulding: “Roedd hwn yn gam mawr ymlaen wrth ddatgymalu llinell gyffuriau weithredol yn ardal Loughborough.
“Mae gan Blagrove-Clarke a Gill hanes o drais a delio cyffuriau ac nid ydynt bellach yn gallu ecsbloetio aelodau bregus o gymdeithas er eu helw eu hunain.
“Mae’r cyhoedd sy’n teithio a’r cymunedau ehangach yr oeddent yn gweithredu ynddynt bellach wedi’u hamddiffyn rhag eu troseddu cyson.
“Roedd hwn yn ymchwiliad cymhleth i Linellau Cyffuriau, lle roedd y ddau ddyn yn defnyddio’r rheilffordd yn rheolaidd i ddelio â chyffuriau mewn gwahanol ardaloedd ac rwy’n falch bod y llys wedi gweld yn dda i roi dedfrydau carchar sylweddol i’r pâr.”

