Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 21 oed wedi’i ddedfrydu ar ôl iddo drefnu i gwrdd â merch 15 oed i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Plediodd Thomas Kasper, o Sceptre Road, Lerpwl, yn euog i gyfarfod neu drefnu i gwrdd â phlentyn yn dilyn meithrin perthynas amhriodol, cyfathrebu rhywiol â phlentyn a gweithgaredd rhywiol nad yw'n dreiddiol gyda phlentyn.
Cafodd ei ddedfrydu i naw mis wedi'i gohirio am 18 mis ar ddydd Mercher 10 Gorffennaf yn Llys y Goron Lerpwl.
Gorchmynnwyd iddo hefyd lofnodi'r Gofrestr Troseddwyr Rhyw am saith mlynedd a rhoddwyd Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol iddo am saith mlynedd.
Clywodd y llys fod swyddogion a oedd ar batrôl yng ngorsaf Lerpwl Lime Street wedi gweld Kasper gyda phlentyn yn ei chusanu a’i chofleidio ar ddydd Sul 21 Mai y llynedd.
Yn bryderus ynghylch yr hyn yr oeddent wedi'i weld o ystyried y gwahaniaeth oedran gweladwy, stopiodd swyddogion y pâr a'u cynnwys mewn sgwrs gyda Kasper yn dweud wrthynt ei fod yn 20 oed a'r ferch yn ond 15 oed.
Wrth siarad â swyddogion ar wahân fe gyfaddefodd Kasper eu bod yn dyddio ond honnodd nad oedd unrhyw weithgaredd rhywiol wedi digwydd.
Cafodd ei arestio am fagu perthynas amhriodol ac achosi neu annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol.
Mewn cyfweliad fe gyfaddefodd ei fod yn gwybod bod y plentyn o dan oed ond eto honnodd nad oedd unrhyw beth o natur rywiol wedi digwydd rhyngddynt.
Cafodd Kasper ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’n parhau gyda swyddogion yn archwilio’r ffôn symudol oedd gydag ef ar y pryd.
Ar ôl archwiliad daeth swyddogion o hyd i negeseuon testun rhwng y pâr a oedd yn amlwg o natur rywiol.
Roedd delweddau TCC o'r orsaf ar ddiwrnod ei arestio hefyd yn dangos tystiolaeth o berthynas rywiol.
Dywedodd y swyddog ymchwilio Rhingyll Stuart Maw: “Er gwaethaf honiadau Kasper nad oedd y berthynas yn un rhywiol mewn unrhyw ffordd, roedd ei weithredoedd ar ddelweddau TCC o’r orsaf yn dangos yn glir fel arall, yn ogystal â’r negeseuon testun yr oedd wedi’u hanfon at y ferch.
“Ein pryder cyntaf oedd diogelu’r plentyn yr oedd Kasper yn amlwg wedi’i feithrin at ddibenion rhywiol a chasglu tystiolaeth a fyddai’n atal eraill rhag mynd yn ysglyfaeth iddo.
“Nawr mae wedi cael Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol a’r gobaith yw y bydd Kasper yn cadw’n glir rhag cysylltu ag unrhyw ferched dan oed yn y dyfodol, yn arbennig rhag ofn cael ei garcharu.”
