Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 44 oed a wnaeth ysglyfaethu ar fenywod sengl a’u trin i drosglwyddo miloedd o bunnoedd wedi’i ddedfrydu yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Cafodd Khalid Mahmood, o Vicarage Crescent, Redditch, ei ddedfrydu i naw mis yn y carchar, wedi’i ohirio am ddwy flynedd, yn Llys y Goron Llundain Fewnol ar ddydd Mercher 20 Medi ar ôl iddo bledio’n euog i dri chyhuddiad o dwyll trwy ymhonni'n anwir a thri chyhuddiad o ddwyn.
Hefyd gorchmynnwyd iddo gwblhau 200 awr o waith di-dâl a mynychu gofyniad adsefydlu am 35 diwrnod. Rhaid iddo hefyd dalu £20,000 o iawndal.
Clywodd y llys sut y defnyddiodd Mahmood yr un tactegau ar dri achlysur i dwyllo menywod y cyfarfu â nhw ar wefan chwilio am gariad o'u harian.
Pan gytunodd y fenyw gyntaf i gwrdd ag ef y tu allan i orsaf Kings Cross ym mis Mawrth 2020 cynigiodd aelodaeth unigryw iddi i glwb masnachu aur pe byddai'n trosglwyddo £6,000. Unwaith iddo gael yr arian dywedodd wrth y fenyw y byddai angen llun pasbort arni gan ei thywys i fwth lluniau yn yr orsaf, tra'n cynnig llenwi'r ffurflenni ar-lein ar ei rhan ar ei ffôn.
Pan ddaeth y fenyw allan o'r bwth roedd Mahmood wedi mynd, ynghyd â'i harian parod a'i ffôn a oedd hefyd yn cynnwys ei cherdyn credyd - defnyddiodd ef hwn i godi £200 arall.
Ym mis Tachwedd yr un flwyddyn sefydlodd Mahmood gyfarfod gyda'i ail ddioddefwraig, yr oedd wedi ymgysylltu â hi gyntaf ar yr un wefan, yng ngorsaf Piccadilly Manceinion lle cynigiodd yr un aelodaeth unigryw iddi.
Ar ôl rhoi pwysau arni i gytuno i'r fargen, cytunodd hi'n ddiweddarach i'r trafodiad, gan gwrdd ag ef am yr eildro yng ngorsaf Euston i drosglwyddo'r arian parod.
Cafodd cynllun Mahmood ei rwystro dros dro pan na allai ddod o hyd i fwth lluniau ac yn lle hynny fe wnaeth anfon y ddioddefwraig i mewn i siop i holi tra'i fod wedi dianc gyda'i £7,000 o arian parod.
Ar y trydydd tro, ym mis Gorffennaf 2021, teithiodd i Rydychen i gwrdd â'i ddioddefwr yr oedd hefyd wedi cwrdd ag ef i ddechrau ar y wefan ddyddio.
Yn ystod y cyfarfod hwn ceisiodd argyhoeddi'r fenyw i dderbyn ei gynnig aelodaeth. Er iddi ddweud wrtho nad oedd ganddi ddiddordeb ac nad oedd ganddi arian, ffoniodd hi yn ddiweddarach yr un diwrnod i ddweud wrthi ei fod eisoes wedi ei chofrestru ac y byddai'n talu hanner y ffi aelodaeth gan adael iddi ddod o hyd i'r £4000 a oedd yn weddill.
Ar ôl cael benthyg yr arian parod gan ei mam fe wnaeth hi gyfarfod â Mahmood yng ngorsaf Victoria a wnaeth iddi dynnu £300 yn ychwanegol. Yna dywedodd wrthi y byddai'n llenwi'r ffurflen ar-lein ar ei ffôn wrth iddi chwilio am fwth lluniau. Pan ddychwelodd hi roedd Mahmood wedi gadael yr orsaf gyda'i ffôn a'i harian parod.
Cafodd Mahmood ei arestio gan swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ym mis Ebrill y llynedd a oedd yn aros ym maes awyr Gatwick i’w gyfarfod o hediad o Bacistan.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, DC Jennifer Brown: “Fe wnaeth Mahmood dwyllo’r menywod hyn trwy feithrin eu hymddiriedaeth ar-lein ac mewn galwadau ffôn cyn sefydlu’r cyfarfod a chynnig bargen a oedd yn rhy dda i fod yn wir.
“Fe faglodd Mahmood y menywod, ac ni allai’r un ohonyn nhw fforddio colli’r arian y gwnaeth ei ddwyn oddi arnyn nhw, trwy addo cyfoeth posib o’i gysylltiadau â’r farchnad masnachu aur.
“Unwaith y bu Mahmood mewn golwg dim ond mater o amser oedd hi cyn iddo gael ei ddwyn o flaen ei well. Ni fydd troseddoldeb o unrhyw fath yn cael ei oddef ac rydym yn parhau i weithio i atal y rhai sy'n gweithredu mentrau troseddol rhag defnyddio'r rhwydwaith rheilffyrdd."