Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a wnaeth ladrata un person a cheisio ladrata un arall i gyd o fewn deg munud yng ngorsaf reilffordd The Hawthorns wedi'i garcharu, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Fe wnaeth Michael Gazi, 23, ac o Oxhill Road yn Birmingham, bledio'n euog i un cyhuddiad o ladrata, un cyhuddiad o ymgais i ladrata, a thri chyhuddiad o dwyll.
Cafodd ei ddedfrydu ar ddydd Mercher 8 Ionawr 2025 yn Llys y Goron Birmingham i bedair blynedd a phedwar mis o garchar.
Clywodd y llys sut, ar ddydd Mawrth 30 Mawrth 2021 am oddeutu 10.15pm, yr aeth Gazi at y dioddefwr ar y platfform yng ngorsaf reilffordd The Hawthorns. Mynnodd Gazi dro ar ôl tro bod y dioddefwr yn trosglwyddo ei arian, ond gwrthododd y dioddefwr. Yn y diwedd roedd y dioddefwr yn gallu dianc.
Yn fuan wedyn, am oddeutu 10.20pm, aeth Gazi at ddyn gwahanol ar y platfform a mynnu ei fod yn trosglwyddo ei waled a’i arian, gan ei wthio yn erbyn wal.
Yna bygythiodd Gazi drywanu’r dyn, gan ystumio tuag at drowsus ei dracwisg a chan awgrymu fod ganddo gyllell cyn cymryd waled y dyn a chod PIN am ei gardiau debyd a chredyd.
Fe wnaeth Gasi symudiadau trywanu dro ar ôl tro tuag at wddf y dyn, gan ddweud: “Os ydych chi'n fy riportio i, bydda i'n eich trywanu chi. Os byddwch chi'n canslo'r cardiau, bydda i'n eich trywanu chi. Os na alla i dynnu arian, bydda i'n eich trywanu chi.” Fe wnaeth Gazi hefyd fygwth teulu’r dyn, gan nodi’r cyfeiriad cartref ar drwydded yrru’r dyn.
Ceisiodd Gazi dynnu arian allan o gyfrif banc y dioddefwr 31 o weithiau, gan lwyddo deirgwaith, er i'r arian hwn gael ei ad-dalu i'r dioddefwr yn ddiweddarach.
Mewn cyfweliad â’r heddlu, ni ddangosodd Gazi unrhyw edifeirwch am ei weithredoedd a gwrthododd ymgysylltu â swyddogion er bod yr ymgais i ladrata a'r lladrata i’w gweld yn glir ar TCC yr orsaf.
Dywedodd y swyddog ymchwilio DS Tanya Dickinson: “Rwy’n hynod falch gyda’r canlyniad a roddwyd. Mae Gazi yn unigolyn peryglus a weithredodd gyda thrais eithafol er ei les ei hun, a gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn rhoi amser iddo fyfyrio ar ei weithredoedd.
“Mae mynd i’r afael â lladrad yn flaenoriaeth i’r llu, ac rwy’n falch bod un troseddwr arall wedi’i dynnu oddi ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Cyflawnwyd ei ymosodiadau digywilydd yn gyhoeddus yng ngolwg TCC, sy’n golygu y gallen ni ddal a chylchredeg delweddau o Gazi yn gyflym, gan ein grymuso i’w ddal a’i erlyn.”