Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi'i garcharu am 30 mis ar ôl lladrata oriawr foethus oddi wrth ddyn yng ngorsaf reilffordd Parkway Maes Awyr Southampton ym mis Ebrill.
Fe wnaeth Wassim Zenil, 28, ac o Haseley Road yn Birmingham, bledio'n euog i un cyhuddiad o ladrata yn Llys y Goron Southampton ar 10 Hydref, a chafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd a chwe mis o garchar yn yr un llys ar 16 Rhagfyr.
Clywodd y llys fod Zenil wedi lladrata oriawr gwerth £3000 oddi wrth ddyn drwy ei thynnu oddi ar ei arddwrn, gan dorri’r strap, ar drên a oedd yn teithio i orsaf reilffordd Parkway Maes Awyr Southampton.
Galwodd y dioddefwr am help ac ymatebodd swyddog heddlu Dinas Llundain nad oedd ar ddyletswydd, gan drefnu dal y trên yn yr orsaf a chael gwybodaeth am Zenil oddi wrth y dioddefwr.
Fe wnaeth y swyddog a'r dioddefwr gerdded drwy'r trên i ddod o hyd i Zenil, pan welodd y dioddefwr doiled wedi'i gloi a gofynnodd i deithwyr cyfagos pwy oedd wedi mynd i mewn. Fe wnaeth y swyddog guro ar y drws, ac agorodd Zenil ef.
Cafodd Zenil ei gadw gan y swyddog nad oedd ar ddyletswydd a'i arestio ar amheuaeth o ladrata ar ôl dod o hyd i'r oriawr arno ond dechreuodd wrthsefyll, gan anafu'r swyddog.Fe wnaeth aelod o'r cyhoedd gynorthwyo'r swyddog i atal Zenil a chafodd ei frathu ar ei law. Yna fe wnaethd swyddogion gyrraedd a mynd â Zenil i'r ddalfa.
Dywedodd y Swyddog Ymchwilio DC Ryan Smith: “Rwyf am ddiolch i’r swyddog nad oed ar ddyletswydd ac i’r aelodau o’r cyhoedd a gynorthwyodd i ddal Zenil, gan helpu i dynnu un troseddwr treisgar arall oddi ar y rhwydwaith.
“Fe wnaeth Zenil ymddwyn yn dreisgar a chreulon, gan dargedu teithiwr unigol er ei fudd ei hun ac rwy'n hynod falch gyda’r ddedfryd a roddwyd.
“Mae mynd i’r afael â lladrata ar y rhwydwaith yn flaenoriaeth i’r llu, ac os ydych chi’n gweld rhywbeth amheus neu anarferol, rriportiwch hyn i ni drwy decstio 61016.
“Os yw lladrad newydd ddigwydd, ffoniwch 999 bob amser - gall swyddogion symud ar unwaith i leoliad a dechrau ymholiadau ar unwaith er mwyn olrhain troseddwyr.”