Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 21 oed wedi cael ei garcharu am fwy na thair blynedd ar ôl iddo drywanu aelod o staff yr orsaf.
Yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig plediodd Jonathan Daniel, heb gartref sefydlog, yn euog i niwed corfforol difrifol, bod â chyllell yn ei feddiant ac aflonyddu ar sail crefydd/hiliaeth a chafodd ei ddedfrydu i 42 mis yn y carchar yn Llys y Goron Llundain Fewnol ar ddydd Mawrth 12 Tachwedd.
Hefyd gorchmynnwyd iddo dalu gordal dioddefwr o £187.
Clywodd y llys sut, ar ddydd Gwener 20 Hydref y llynedd, gofynnodd aelod o staff yng ngorsaf Charing Cross i Daniel symud oddi wrth y fynedfa gan ei fod yn achosi aflonyddwch a bod yn ymosodol i deithwyr.
Aeth Daniel yn fwyfwy ymosodol ac wrth i’r dioddefwr droi i ffwrdd i ddefnyddio ei radio i ofyn am gymorth gan gydweithwyr, cafodd ei drywanu yn ei gefn gan Daniel a redodd i ffwrdd wedyn â’r gyllell yn ei law.
Oriau’n ddiweddarach fe welodd swyddogion Daniel yn Leicester Square a chafodd ei arestio tra’n dal i gario’r gyllell roedd wedi ei defnyddio yn yr ymosodiad.
Dywedodd y swyddog ymchwilio DC Gemma Lee: “Roedd hwn yn ymosodiad erchyll ar rywun a oedd ond yn gwneud ei gwaith, yn helpu i gadw’r rhwydwaith rheilffyrdd a’r rhai sy’n ei ddefnyddio’n ddiogel.
“Fe wnaeth y dioddefwr ddioddef asen wedi'i thorri a gwaedu o amgylch yr ysgyfaint ac mae digwyddiadau’r prynhawn hwnnw wedi'i thrawmateiddio o hyd.
“Does dim esgus dros gario cyllyll nac unrhyw arfau eraill ar y rhwydwaith rheilffyrdd ac rydym yn parhau i weithio’n ddiflino i’w tynnu oddi ar y rheilffordd.”
