Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 25 oed wedi'i garcharu am 24 wythnos ar ôl iddo ymosod yn rhywiol ar fenyw a thaflu clustog sedd at deithiwr gwrywaidd.
Yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig plediodd Harry Burgess, 25 oed, o Brodrick Grove, Greenwich, yn euog i ymosodiad rhywiol ac ymosodiad trwy guro a chafodd ei garcharu gan Ynadon Bromley ar ddydd Llun 18 Medi.
Cafodd hefyd orchymyn atal niwed rhywiol pum mlynedd a rhaid iddo dalu gordal dioddefwr o £154.
Clywodd y llys sut, ar ddydd Mawrth 4 Ebrill, roedd Burgess yn teithio ar wasanaeth i New Eltham gyda grŵp o ffrindiau.
Ar un adeg yn ystod y daith gadawodd Burgess ei sedd a dinoethi ei hun tra'n troethi ar sedd yng ngolwg teithwyr eraill.
Yna taflodd glustog sedd at deithiwr gwrywaidd, gan ei daro yn ei wyneb.
Yn fuan wedyn yng ngorsaf reilffordd New Eltham, ymosododd Burgess yn rhywiol ar fenyw wrth iddi fyrddio'r gwasanaeth.
Dywedodd y swyddog ymchwilio DC Matt Smart fod “ymddygiad llwm ac amrwd Burgess yn llabystaidd ac yn fygythiol i’r fenyw yr oedd wedi'i dewis.
“Mae bellach yn treulio amser y tu ôl i fariau am ei ymdrechion truenus i wneud argraff ar y ffrindiau yr oedd yn teithio gyda nhw. Nid yw ymosodiad rhywiol a thrais o unrhyw fath yn jôc fel y gall Burgess dystio bellach.
“Rydym yn cymryd pob adroddiad o aflonyddu rhywiol ac ymddygiad rhywiol digroeso o ddifrif a byddwn yn cefnogi dioddefwyr trwy gydol ein hymchwiliadau.
“Os ydych yn ddioddefwr, neu’n dyst i, drosedd rywiol ar y rheilffordd – fe’ch anogaf i'w riportio i ni drwy decstio 61016 neu drwy'r ap Railway Guardian. Byddwn yn eich cymryd o ddifrif bob tro."
