Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 39 oed wedi’i garcharu ar ôl dinoethi ei hun a mastyrbio o flaen menywod ar fwrdd trên mewn dau ddigwyddiad gwahanol.
Cafwyd James Arthur George Gathercole, heb gartref sefydlog, yn euog o ddau gyhuddiad o ddinoethiad, yn Llys y Goron Mewnol Llundain ar ddydd Mawrth 2 Gorffennaf.
Cafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd wyth mis yn y carchar ac mae’n rhaid iddo dalu gordal dioddefwr o £228.
Cafodd Gathercole hefyd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol 10 mlynedd lle na all:
Clywodd y llys fod Gathercole wedi cyflawni dau ddigwyddiad o ddinoethiad ar fwrdd trenau ar ddydd Sul 26 Mai 2024. Digwyddodd y cyntaf am 3.20pm ar y trên o Orsaf Motspur Park i Orsaf Wimbledon pan eisteddodd gyferbyn â'r ddioddefwraig, menyw 27 oed, ac aeth ymlaen i fastyrbio a dinoethi ei bidyn yn llinell llygad y deithwraig a oedd yn ei wynebu.
Yn ddiweddarach y noson honno am 7.20pm aeth Gathercole ar drên eto yng Ngorsaf West Sutton i gyfeiriad Blackfriars Llundain ac eistedd i lawr ar y trên gan wybod bod y ddioddefwraig, menyw 19 oed, yn llinell ei lygad ac aeth ymlaen i fastyrbio a dinoethi ei bidyn cyn codi a cherdded trwy'r cerbyd.
Ar ôl gwyliodelweddau TCC, a fideo y llwyddodd un o’r dioddefwyr dewr i’w recordio o’r digwyddiad, llwyddodd y swyddog ymchwilio i adnabod Gathercole fel yr un dan amheuaeth. Cafodd ei ganfod a’i arestio lle cafodd ei gyhuddo wedyn a’i remandio i fynychu’r Llys lle nad oedd ganddo fawr o ddewis ond pledio’n Euog.
Dywedodd y swyddog ymchwilio DC POTTER: “Mae Gathercole wedi ymddwyn mewn modd ffiaidd gan ddewis y menywod ifanc i’w targedu."
"Bydd Gathercole yn gallu ystyried ei weithredoedd wrth dreulio amser yn y carchar am ei droseddau. Bydd yr SHPO yn sicrhau na fydd yn gallu targedu unrhyw un eto a dylai ganiatáu iddo ddysgu o'i weithredoedd."
“Rydym yn cymryd pob adroddiad o ymosodiad rhywiol o ddifrif a gyda chefnogaeth lawn y dioddefwyr mewn achosion o’r fath mae hyn yn dangos y canlyniadau cadarnhaol y gallwn ni eu cyflawni."

