Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 38 oed wedi'i garcharu am fwy na phum mlynedd ar ôl iddo gael ei ddal yn cario heroin a chanabis gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Plediodd Dexter Sharpe, o Timsbury Walk, Wandsworth, yn euog i fod â chyffuriau dosbarth A yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi canabis a chafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd a chwe mis yn y carchar yn Llys y Goron Llundain Fewnol ar ddydd Mercher 26 Mehefin.
Clywodd y llys sut, ar ddydd Mawrth 26 Gorffennaf 2022, y cafodd Sharpe ei atal gan swyddogion a’i gadw i'w chwilio ar ôl iddo gael ei ddal yn ysmygu smôc y tu allan i orsaf Clapham Junction.
Canfuwyd ei fod yn cario ffôn symudol, mwy na £2000 mewn arian parod a 25 lapiad o’r hyn, ar ôl archwiliad, a drodd allan i fod yn werth mwy na £500 o heroin yn ei sach gefn.
Cafodd ei arestio a thra yn y ddalfa daethpwyd o hyd i swm o ganabis ymhlith ei feddiannau.
Mewn cyfweliad â'r heddlu honnodd Sharpe nad oedd y ffôn, arian parod a heroin yn perthyn iddo ond gwrthododd egluro sut y daeth i fod yn eu cario.
Dywedodd y swyddog ymchwilio DC Emma Martin: “Mae dedfryd Sharpe yn adlewyrchu difrifoldeb ei drosedd a pha mor ddifrifol mae’r llysoedd yn ystyried troseddu o’r fath.
“Mae cyffuriau yn falltod ar gymunedau a dyma enghraifft arall eto o’n hymyrraeth yn cael gwared ar fwy o gyffuriau a oedd i fod i gyrraedd y strydoedd.
“Dylai unrhyw un sy’n ymwneud â chludo cyffuriau ar y rhwydwaith rheilffyrdd fod yn wyliadwrus – mae gennym lygaid ym mhobman – byddwch chi’n cael eich dal ac yn wynebu’r canlyniadau.”
