Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 38 oed wedi'i garcharu ar ôl iddo dwyllo cwmni trenau allan o fwy na £1K drwy ddefnyddio cynllun iawndal yn anonest.
Yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, cafodd Thomas Ingram, o Cheltenham Road, Blackpool, ei garcharu am 16 mis yn Llys y Goron Preston ar ddydd Llun 8 Gorffennaf ar ôl iddo bledio’n euog i dwyll drwy cam-gynrychiolaeth.
Rhaid iddo hefyd dalu gordal o £156.
Clywodd y llys sut, ar ddydd Iau 23 Mawrth y llynedd, fe wnaeth ymchwilydd twyll yn Trafnidiaeth Cymru godi’r larwm i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, gan adrodd bod nifer o hawliadau ffug wedi’u gwneud gan yr un person drwy’r cynllun ad-dalu am oedi.
Roedd Ingram wedi cyflwyno cyfanswm o 28 o hawliadau rhwng 23 Tachwedd 2020 a 26 Ionawr 2023 gwerth £5,372. Roedd Trafnidiaeth Cymru wedi talu £1,294 gyda’r hawliadau eraill yn cael eu gwrthod oherwydd amheuon ynghylch eu cyfreithlondeb.
Yn dilyn ymholiadau cychwynnol gan yr heddlu cysylltodd ymchwilydd twyll yn Northern gyda swyddogion gyda thystiolaeth bod Ingram hefyd wedi cyflwyno hawliadau twyllodrus iddynt hwy, sef cyfanswm o bron i £100, y tro hwn yn hawlio gostyngiadau gyda cherdyn rheilffordd pobl ifanc nad oedd yn gymwys ar ei gyfer.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, DC Callum Lancaster: “Roedd Ingram yn fentrus ac yn effro yn ei ymdrechion niferus i dwyllo cwmnïau rheilffordd.
“Er gwaethaf camsyniad cyffredin, nid yw twyll tocynnau yn drosedd heb ddioddefwyr o bell ffordd, mae’r costau a dynnir gan y cwmnïau'n cael eu hadlewyrchu yn y cynnydd mewn prisiau ac oedi wrth ddigolledu hawlwyr dilys”.
“Bellach mae gan Ingram amser i fyfyrio a oedd ei anonestrwydd yn werth chweil wrth iddo wneud ei ddedfryd o garchar.”
