Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 53 oed wedi’i garcharu ar ôl iddo gyfaddef cario arfau ymosodol yng Ngorsaf Reilffordd Leeds yr wythnos ddiwethaf.
Plediodd Richard Bray, sydd heb gartref sefydlog, yn euog i fod ag arf ymosodol yn ei feddiant mewn man cyhoeddus a chafodd ei ddedfrydu i chwe mis yn y carchar gan Ynadon Bradford ar ddydd Mercher 13 Medi.
Gorchmynnwyd iddo hefyd dalu gordal dioddefwr o £154.
Clywodd y llys sut, ar ddydd Mawrth 12 Medi, yr aeth Bray i orsaf Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn Leeds a datgan bod ganddo arfau bygythiol, dau glamp dur mawr o safle adeiladu.
Dywedodd wrth swyddogion yr heddlu ei fod yn bwriadu defnyddio'r clampiau fel arfau i amddiffyn ei hun ac y gallai drywanu rhywun pe byddent yn cael eu cymryd oddi arno.
Dywedodd y swyddog ymchwilio PC Ryan Moss: “Mae Bray yn amlwg yn unigolyn peryglus a allai fod wedi achosi anaf difrifol i aelod arall o’r cyhoedd.
“O ystyried ei gyfaddefiad ei hun fod y clampiau’n cael eu cario gyda’r bwriad o achosi niwed i eraill, doedd gan yr Ynadon fawr o ddewis ond rhoi dedfryd o garchar iddo.
“Bydd unrhyw un sy’n cario eitemau ar y rheilffordd gyda’r pwrpas o achosi anaf yn cael eu harestio a’u dwyn gerbron y llysoedd.”
