Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwladolyn 29 oed o Fietnam wedi'i garcharu ar ôl iddo gael ei ddal gyda chês yn cynnwys bron i werth £80k o ganabis.
Plediodd Le Van Phuc, 29 oed, (DG: 18/01/1995) heb gartref sefydlog, yn euog i fod â chyffuriau dosbarth B yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi cyffuriau dosbarth B a chafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Preston ar ddydd Mawrth 13 Awst i un ar ddeg wythnos yn y carchar.
Clywodd y llys sut y gwelodd tasglu Llinellau Cyffuriau Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig Phuc ar ddydd Sadwrn 18 Ebrill yn gadael trên yng ngorsaf Preston yn cario sach deithio ddu ac yn olwyno cês du mawr.
Fe wnaeth ei ymddygiad godi amheuon swyddogion ac wrth iddo aros am wasanaeth i Glasgow aeth swyddogion at Phuc a dweud pwy oedden nhw a chamodd Phuc i ffwrdd o'r cês ar unwaith.
Pan ofynnwyd iddo a oedd y cês yn eiddo iddo, atebodd ar unwaith nad oedd.
Pan wnaeth swyddogion chwilio'r cês fe ddaethon nhw o hyd i ddau fag bin mawr y tu mewn yn cynnwys canabis gyda gwerth stryd o bron i £80k.
Daeth chwiliad pellach o hyd i £160 mewn arian parod ynghyd â thocyn dwyffordd o Glasgow i Bolton.
Dywedodd y swyddog ymchwilio PC Andrew Margerison: “Mae ein tasglu Llinellau Cyffuriau'n patrolio’r rheilffordd ar hyd a lled y wlad, o ddydd i ddydd, ac yn gallu gweld pan nad yw rhywbeth neu rywun yn edrych yn iawn.
“Mae gennym lygaid ym mhobman felly mae gennym rybudd i chi – os ydych chi’n bwriadu defnyddio’r rhwydwaith rheilffyrdd i gludo cyffuriau neu gymryd rhan mewn unrhyw fath o droseddoldeb byddwn ni yno'n aros amdanoch.”