Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 21 oed wedi’i garcharu am ddwy flynedd ar ôl cyrch Linellau Cyffuriau Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yng ngorsaf drenau Abertawe.
Plediodd Florian Fera, (28/02/2003) heb gartref sefydlog, yn euog i feddu ar gyffur dosbarth A gyda'r bwriad o gyflenwi cyffur dosbarth A a chafodd ei ddedfrydu ar ddydd Mawrth (9 Gorffennaf) yn Llys y Goron Abertawe.
Clywodd y llys sut, ar ddydd Iau, 25 Ebrill eleni, y cafodd Fera ei chwilio gan swyddogion Tasglu Llinellau Cyffuriau ar ôl i gi heddlu ganfod ei fod yn cario cyffuriau.
Canfuwyd bod ganddo ddau iPhone, £400 mewn arian parod ac 13 bag clecian o bowdr gwyn y canfuwyd yn ddiweddarach ei fod yn gocên gyda gwerth stryd o hyd at £900.
Dywedodd y swyddog ymchwilio DC Stephen Redmond: “Rydym yn gweithio’n gyson i dargedu troseddoldeb ar y rheilffordd, yn benodol y rhai sy’n defnyddio’r rhwydwaith i gludo cyffuriau i gymunedau.
“Rydym yn defnyddio amrywiaeth o adnoddau gan gynnwys patrolau cudd a’n timau cŵn arbenigol. Rydym bob amser yn chwilio am unrhyw un sy'n defnyddio'r rheilffordd ar gyfer gweithgareddau ysgeler.”
