Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 60 oed wedi’i garcharu ar ôl torri ei Orchymyn Atal Niwed Rhywiol (SHPO) yng Ngorsaf Drenau Southport.
Yn wreiddiol, cafodd John Klieve o Cambridge Road, Southport ei ddedfrydu i 14 mis wedi’i ohirio am 2 flynedd, yn ôl yn 2019 yn Llys y Goron Lerpwl am ysgogi menyw o dan 16 oed i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, dau gyhuddiad o gwrdd â pherson dan 16 oed, dosbarthu delweddau anweddus o blant a thri chyhuddiad o wneud delweddau anweddus o blant.
Un o amodau ei SHPO oedd peidio â chael unrhyw gyswllt heb oruchwyliaeth ag unrhyw blentyn o dan 16 oed oni bai bod rhiant/gofalwr neu'r heddlu yn cael eu hysbysu.
Ym mis Medi 2022 tra ar drên, fe wnaeth Klieve syllu ar ferch 14 oed cyn llyfu ei wefusau a wincio arni, gan dorri’r gorchymyn trwy gael cyswllt heb oruchwyliaeth â phlentyn heb ganiatâd cymeradwy. Am y toriad hwn fe'i dedfrydwyd i 16 mis o garchar ar ddydd Gwener 24 Ionawr yn Llys y Goron Lerpwl.
Dywedodd Vicky Davis, Rheolwr Troseddwyr Uned ViSOR BTP: “Mae gorchmynion atodol, fel SHPO yn arf gwych i ni barhau i flaenoriaethu diogelwch teithwyr ar y rheilffordd, p’un a yw person wedi cyflawni dedfryd o garchar ai peidio. Gallwn ni osod cyfyngiadau ar deithio neu, fel yn yr achos hwn, ymgysylltu ag eraill, a phan fydd y rhain yn cael eu torri, byddwn ni'n gweithredu.
“Dylai hyn fod yn rhybudd llym i unrhyw un sy’n ystyried troseddu ar y rheilffordd neu dorri eu SHPO; byddwn ni'n eich dal. Rydym yn cymryd pob adroddiad o drosedd o ddifrif a byddwn ni'n cefnogi’r dioddefwyr a’u teuluoedd drwy gydol y broses. Rydym yn annog pob teithiwr i gadw 61016 fel cyswllt yn eu ffôn, a thecstio i riportio unrhyw ymddygiad amheus y maent yn ei weld neu'n ei brofi yn gynnil fel y gallwn ni weithredu."
