Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a wnaeth wthio dieithryn llwyr i'r cledrau mewn ymosodiad ar hap wedi'i garcharu am oes.
Yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig derbyniodd Brwa Shorsh, 24, dyddiad geni 22/12/1999, ddedfryd oes amhenodol yn Llys y Goron Llundain Fewnol heddiw, dydd Iau 10 Hydref.
Fe’i cafwyd yn euog gan reithgor o geisio llofruddio yn yr un llys ar 31 Gorffennaf.
Clywodd y llys sut, ar 3 Chwefror 2024, am oddeutu 2.53pm, roedd y dioddefwr, dyn yn ei 60au, yng ngorsaf danddaearol Oxford Circus pan ddaeth ar draws Shorsh. Roedd y dioddefwr wedi gweld Shorsh wedi'i leoli ar fainc ar blatfform llinell Victoria tua'r de.
Wrth iddo agosáu at Shorsh, gan wirio dyfodiad y trên nesaf ar y sgrin uwchben, cafodd ei wthio – heb ei bryfocio – gan Shorsh i'r cledrau wrth i wasanaeth tanddaearol nesáu. Ymatebodd tyst ar unwaith, gan dynnu'r dioddefwr yn ôl ar y platfform. Ymatebodd gyrrwr y trên hefyd yn gyflym i'r digwyddiad a diolch byth ni chafodd y dioddefwr unrhyw anafiadau difrifol.
Fe wnaeth Shorsh adael yr orsaf a chafodd ei arestio gan swyddog, a oedd yn ei adnabod o’r delweddau TCC a gasglwyd, ychydig oriau’n ddiweddarach yng ngorsaf Warren Street am oddeutu 10.30pm.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio Ditectif Brif Arolygydd Sam Painter: “Rwy’n falch o ganlyniad heddiw ac yn dymuno diolch i bawb a fu’n rhan o’r ymchwiliad a weithiodd yn gyflym i ganfod ac arestio Shorsh.
“Mae’n werth nodi bod y barnwr wedi canmol yn fawr y tyst a dynnodd y dioddefwr yn ddewr oddi ar y cledrau am ei weithredoedd anhunanol i helpu’r dioddefwr.
“Fel yr adlewyrchir gan y ddedfryd oes a roddwyd, mae Shorsh yn unigolyn hynod beryglus sydd bellach oddi ar y strydoedd a thu ôl i fariau diolch byth.
“Y gobaith yw y bydd hyn yn rhoi rhywfaint o gysur a thawelwch meddwl i’w ddioddefwr sy’n parhau i weithio tuag at ei adferiad o’r digwyddiad brawychus hwn gyda Shorsh.”
