Stamp amser presennol: 04/08/2026 23:17:45
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

British Transport Police force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Tell us about possible terrorist activity
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Yn ôl i Timau lleol

    • De-orllewin Lloegr
    • Cymru
    • Canolbarth Lloegr
    • Pennines
    • Llundain
    • De Lloegr
    • Yr Alban
  1. ...
  2. Newyddion

Diweddariad: Datganiad ynghylch ymchwiliad gorsaf Victoria - Llundain

Cynnwys y prif erthygl

Lloegr
Cyhoeddwyd: 10:46 05/06/2020

Mewn ymateb i geisiadau gan y cyhoedd am wybodaeth ynglŷn â'r ymchwiliad hwn mae'r llinell amser, agweddau allweddol ar yr achos hwn, a'r ffactorau a lywiodd ein casgliad fel sy'n dilyn:

Roedd marwolaeth drist Mrs Belly Mujinga o goronafeirws yn ysgytwad i lawer o bobl. Er mai ymchwilio i weld a gyflawnwyd trosedd yw ein hamcan allweddol, mae gennym gyfrifoldeb hefyd i gefnogi gŵr, teulu a ffrindiau Belly yn broffesiynol ac yn sensitif wrth iddynt addasu i fywyd hebddi. 

Rydym yn deall dyfnder y teimlad sy'n bodoli mewn perthynas â'r achos hwn a bod cwestiynau ynghylch sut yr ydym wedi dod i'n penderfyniad nad oes prawf digonol o drosedd i gyfiawnhau erlyn unrhyw un. 

Gallwn roi sicrwydd i'r cyhoedd ein bod wedi adolygu'r holl dystiolaeth sydd ar gael yn gynhwysfawr ac nad ydym wedi nodi unrhyw droseddau nac ymddygiad sy'n diwallu'r trothwy ar gyfer erlyn. 

Ar ddydd Sadwrn 21 Mawrth honnir bod Mrs Mujinga a dau o'i chydweithwyr yn gweithio ar gyntedd Gorsaf Victoria pan oeddent yn rhan o anghytundeb gwibiol gyda chwsmer yr honnir ei fod wedi pesychu a phoeri arnynt.  

Dros yr wythnosau nesaf, dechreuodd pryderon ddod i'r amlwg yn y gweithle. Arweiniodd y rhain at Gymdeithas Staff Trafnidiaeth a Chyflogedig (TSSA), undeb Mrs Mujinga, yn codi’r pryderon hyn gyda’i chyflogwr Govia Thameslink Railways ar neu o amgylch 19 Ebrill. Cododd y TSSA bryderon hefyd â'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR) ar yr adeg hon. 

Ar 2 Ebrill derbyniwyd Mrs Mujinga i'r ysbyty lle bu farw yn anffodus ychydig ddyddiau'n ddiweddarach ar Ebrill 5.

Riportiwyd am ddigwyddiad 21 Mawrth i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) ar 11 Mai. Gan nodi arwyddocâd yr achos, comisiynodd BTP ei dîm Troseddau Difrifol a Threfnedig Mawr (MSOC) i gynnal ymchwiliad a chasglu tystiolaeth o'r digwyddiad. Yn anarferol efallai, o ystyried treigl amser rhwng y digwyddiad ac adroddiad i BTP, roedd modd adfer y teledu cylch cyfyng o hyd.  Yn dilyn adolygiad o'r ffilm, ac ymholiadau helaeth, nododd ditectifs ddyn y credent y gallai ddarparu gwybodaeth i'w helpu i ddeall mwy o amgylchiadau'r digwyddiad â Mrs Mujinga a'i chydweithwyr.

Ar 17 Mai cyfwelwyd y dyn hwn gan dditectifs o dan rybudd ar ôl mynychu gorsaf heddlu BTP yn wirfoddol.  Atebodd y dyn bob cwestiwn a ofynnwyd iddo yn y cyfweliad. 

Yn dilyn adolygiad o'r holl wybodaeth a oedd ar gael, gan gynnwys y lluniau teledu cylch cyfyng, datganiadau tystion ac esboniadau a roddwyd mewn cyfweliadau, daeth uwch dditectifs i'r casgliad nad oedd tystiolaeth ddigonol i gadarnhau bod unrhyw droseddau wedi digwydd ac na ddigwyddodd marwolaeth Mrs Mujinga o canlyniad i'r digwyddiad hwnnw.

Fe wnaethom ystyried ystod o dramgwyddau troseddol posibl a allai fod wedi'u cyflawni. Pan yw tystiolaeth o rywun yn poeri ar rywun yn fwriadol, gallai hyn fod yn Ymosodiad Cyffredin neu'n drosedd Trefn Gyhoeddus.  Er mwyn ystyried a gyfrannodd unrhyw weithredoedd at Mrs Mujinga yn contractio coronafeirws a'i marwolaeth drasig ddilynol, byddai'n angenrheidiol yn gyntaf cael tystiolaeth o boeri neu weithred arall a allai arwain at haint, ac felly gael cysylltiad achosol uniongyrchol. 

Ar ôl adolygu’n drylwyr yr holl ddatganiadau gan dystion allweddol gan gynnwys cydweithwyr ac adolygu’r ffilm teledu cylch cyfyng yn agos, daeth y swyddogion ymchwilio i’r casgliad nad oedd tystiolaeth ddigonol i gefnogi erlyniad yn seiliedig ar yr honiad bod y dyn wedi poeri’n fwriadol ar Mrs Mujinga neu wedi dweud bod ganddo’r feirws .   Felly penderfynwyd nad oedd tystiolaeth ddigonol i fynd ar drywydd cyhuddiadau o Ymosodiad Cyffredin neu drosedd dan y Ddeddf Trefn Gyhoeddus. Heb yr elfennau rhagflaenol hynny nid oes tystiolaeth ddigonol i gysylltu'r gweithredoedd honedig â Mrs Mujinga yn contractio coronafeirws.

Lle nad yw'r heddlu'n credu bod digon o dystiolaeth i gefnogi erlyniad, ni chyrhaeddir y trothwy cychwynnol ac ni wneir atgyfeiriad i Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS).

Serch hynny, er mwyn nodi buddiant ehangach y cyhoedd yn amgylchiadau'r achos hwn, er i ni wneud y penderfyniad i beidio â chyhuddo, rydym bellach wedi gwahodd adolygiad annibynnol gan y CPS o'r dystiolaeth sydd ar gael, ac a oes unrhyw linellau ymholiadau pellach mewn perthynas â safbwynt BTP ar y gobaith o ddiwallu egwyddor gyffredinol erlyniad llwyddiannus.

Rydym wedi dal i gynnwys gŵr a theulu Mrs Mujinga yn einn trafodaethau ac wedi rhannu'r wybodaeth sydd gennym gyda nhw i'w helpu i ddeall ein rhesymeg dros y casgliad y daethom iddo. Mae ein swyddogion arbenigol yn parhau i'w cefnogi wrth iddynt alaru am golli hoff fam a gwraig. 

Gobeithiwn y bydd hyn yn helpu i roi yn ei gyd-destun ein hymagwedd at ymchwilio i'r honiadau hyn o ddigwyddiad troseddol, y dystiolaeth sydd ar gael i gefnogi achos barnwrol pellach mewn perthynas â'r honiadau hynny a'n tosturi parhaus tuag at y rhai a oedd yn adnabod ac yn caru Belly.

 

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Hygyrchedd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyrchu gwybodaeth
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais

Partneriaid

  • Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
  • Riportio gan Gwmni Gweithredu Trenau

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.