Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) gadarnhau na fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd mewn perthynas â digwyddiad yng ngorsaf Victoria Llundain ym mis Mawrth, yn dilyn ymchwiliad llawn a thrylwyr.
Ar 11 Mai, adroddwyd wrth BTP bod rhywun wedi poeri a phesychu ar fenyw 47 oed, Belly Mujinga, wrth iddi weithio yn y neuadd docynnau gyda dau gydweithiwr ar 21 Mawrth.
Yn drist iawn, bu farw ar 5 Ebrill yn yr ysbyty, ar ôl profi’n bositif am Goronafeirws.
Mae ditectifs wedi cynnal ymholiadau helaeth i sefydlu amgylchiadau llawn yr hyn a ddigwyddodd ar 21 Mawrth. Mae hyn wedi cynnwys adolygu ffilm teledu cylch cyfyng o'r digwyddiad a siarad â thystion allweddol.
Yn dilyn adolygiad o’r holl wybodaeth, mae uwch dditectifs wedi dod i’r casgliad nad oes tystiolaeth i gadarnhau bod unrhyw droseddau wedi digwydd, ac nad oedd marwolaeth drasig Belly Mujinga yn ganlyniad i’r digwyddiad hwn.
O ganlyniad, ni fydd y mater yn cael ei atgyfeirio i Wasanaeth Erlyn y Goron.
Ni chymerir unrhyw gamau pellach yn erbyn dyn 57 oed o Lundain a gafodd ei gyfweld mewn cysylltiad â'r mater hwn.
Mae teulu Belly wedi'u hysbysu o ganlyniad yr ymchwiliad a byddant yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Sam Blackburn:“Rwyf yn gwybod bod colli Belly wedi effeithio ar gymaint o bobl, a gallaf eich sicrhau ein bod wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu atebion i’w theulu.
“O ganlyniad i’n hymholiadau, gallwn nawr fod yn hyderus na arweiniodd y digwyddiad hwn at farwolaeth drasig Belly.
“Mae ein meddyliau’n aros gyda’i theulu a byddwn yn parhau i’w cefnogi wrth iddynt ddod i delerau â cholli eu mam a’u gwraig annwyl.”