Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi ysgogi Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i annog y rhai sy'n gyfrifol i stopio a meddwl cyn iddyn nhw achosi niwed difrifol ac wynebu cael eu herlyn.
Dros yr wythnosau diwethaf mae cynnydd wedi bod yn nifer y digwyddiadau'n ymwneud â cherrig yn cael eu taflu at drenau ac eitemau yn cael eu taflu o bontydd yn ogystal â thresmasu a difrod troseddol yn ardal Elsecar.
Nawr mae'r heddlu, sy'n targedu'r ardal gyda phatrolau cyson, rhai ohonynt yn ddillad plaen, yn benderfynol o ddifa'r ymddygiad peryglus cyn i rywun gael ei frifo.
Mae technoleg newydd, gan gynnwys dronau, sydd wedi'i hariannu gan Network Rail, hefyd yn cael eu defnyddio mewn ymgais i adnabod y rhai sy'n gyfrifol.
Dywedodd PS Darren Martin: "Unwaith eto mae'r mater hwn yn codi ei ben hyll a chyda hyn daw peryglon anochel tresmasu ar y rheilffordd a thargedu trenau i achosi difrod yn fwriadol.
"Dim ond mater o amser yw hi cyn i rywun gael ei frifo gan yr ymddygiad di-hid ac a dweud y gwir, hurt. Mae teithwyr a gyrwyr yn bobl ddiniwed sydd, yn syml, yn gwneud eu gwaith neu'n ceisio mynd o A i B. Rwy'n annog y rhai sy'n gyfrifol i ystyried sut y bydden nhw'n teimlo pe bai rhywun wedi'i anafu neu'n waeth oherwydd eu gweithredoedd.
"Ac os nad yw'r syniad o niweidio eraill yn ddigon, yna fe ddylen nhw feddwl am y perygl maen nhw'n ei wynebu eu hunain drwy dresmasu ar y rheilffordd; os ydyn nhw'n ddigon ffodus i ddianc o anaf fe allen nhw wynebu cael eu herlyn neu gael record droseddol - y cyfan am eiliad o hurtrwydd.
"Rhieni a'r gwarchodwyr - rydyn ni angen i chi sicrhau bod ein neges yn dod drwodd - plîs addysgwch eich pobl ifanc am beryglon a risgiau ymddygiad fel hyn - gallai bywydau ddibynnu arno."
Gofynnir i unrhyw un sy'n sylwi ar rywun sy'n tresmasu gysylltu drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40. Ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a Network Rail yn rhedeg ymgyrch ddiogelwch sy'n ddi-flewyn-ar-dafod, You Vs Train, sy'n amlygu'r canlyniadau dinistriol y gall tresmasu ar y rheilffordd eu cael. Gellir gweld rhagor o wybodaeth ar youvstrain.co.uk.