Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tîm arbenigol o swyddogion heddlu'n targedu tresmaswyr yn ardal Leeds a Micklefield yn ystod gwyliau'r Pasg.
Bydd tîm aflonyddu Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn targedu’r llinell mewn ymgais i atal tresmaswyr ac atal troseddau llwybr.
Gan weithio gyda phartneriaid Network Rail a Northern, bydd y tîm, sy'n cynnwys swyddogion mewn iwnifform a dillad plaen, yn canolbwyntio ar dresmasu ar y rheilffordd ac yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cadw'n ddiogel ac i ffwrdd o'r rheilffordd.
Dywedodd yr Arolygydd Richard Price: “Mae'r ardal hon fel arfer yn gweld cynnydd mawr mewn achosion o dresmasu sy'n gysylltiedig ag ieuenctid pan yw'r nosweithiau'n dod yn oleuach a gwyliau ysgol yn dechrau.
“Fodd bynnag, eleni mae ein pryderon yn fwy difrifol, yn arbennig gan nad ydym yn gallu mynd i mewn i ysgolion ein hunain i drosglwyddo'r neges hon i blant yn uniongyrchol,”
“Mae gan y tîm aflonyddu wybodaeth ddaearyddol gynhwysfawr a manwl o’r ardal ac maent yn gwybod pa fannau problemus sy’n denu pobl ifanc sydd wedi diflasu.
“Ond rydym hefyd am i rieni a gwarcheidwaid ein helpu ni trwy wneud eu plant yn ymwybodol o beryglon tresmasu ar y rheilffyrdd a sicrhau eu bod yn gwybod ble maen nhw pan nad ydyn nhw gartref.
“Gall tresmasu ar y rheilffordd, gosod rhwystrau ar y lein, neu daflu eitemau at drenau sy'n mynd heibio, arwain at ganlyniadau difrifol a hyd yn oed angheuol. Mae'n hanfodol bod pobl yn sylweddoli eu bod mewn perygl o gael eu lladd trwy chwarae o gwmpas ger y rheilffordd. ”
Mae BTP a Network Rail yn cynnal ymgyrch ddiogelwch drawiadol, You Vs Train, sy'n amlygu'r canlyniadau dinistriol y gall tresmasu ar y rheilffordd eu cael.
Mae ffilm newydd - Parallel Lines - wedi cael ei lansio i gael plant a phobl ifanc i feddwl nid yn unig am y canlyniadau dinistriol y gall eu gweithredoedd eu cael arnyn nhw a'u hanwyliaid, ond y niwed ehangach, sydd weithiau'n gudd, a achosir i'r gymuned, yn arbennig staff y rheilffordd.
Gallwch ddysgu rhagor a gweld y ffilm ymgyrchu newydd yn youvstrain.co.uk