Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae heddluoedd a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu'n lansio Gwasanaeth Riportio Gwrth-lygredd a Cham-drin cenedlaethol ar y cyd yn dilyn ei gyflwyno'n llwyddiannus yn yr Heddlu Metropolitanaidd.
Mae heddluoedd a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (PCCs)* wedi comisiynu’r elusen annibynnol Crimestoppers i redeg gwasanaeth i’r cyhoedd riportio'n ddienw neu’n gyfrinachol am lygredd a chamddefnydd ddifrifol gan swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr.
Bydd y gwasanaeth newydd yn cryfhau gallu lluoedd i gymryd camau yn erbyn y rhai nad ydynt yn addas i wasanaethu, ymrwymiad a wnaed gan bob pennaeth heddlu a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd i gryfhau safonau a diwylliant yr heddlu. Mae’r lansiad yn dilyn blwyddyn o gydweithio rhwng lluoedd, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a Crimestoppers i sicrhau bod y gwasanaeth ar gael i bob cymuned ar draws y DU.
Mae Gwasanaeth Riportio Gwrth-lygredd a Cham-drin yr Heddlu yn ymdrin â gwybodaeth yn ymwneud â swyddogion, staff a gwirfoddolwyr sy'n:
Bydd Crimestoppers yn derbyn galwadau gan y cyhoedd am unigolion a gyflogir gan unrhyw heddlu yn y DU, ni waeth a yw’r wybodaeth yn ymwneud â nhw tra ar neu oddi ar ddyletswydd, ar-lein neu wyneb yn wyneb. Gellir cyflwyno adroddiadau ar-lein ac mae galwadau ffôn am ddim.
Pan fydd pobl yn cysylltu â'r gwasanaeth, gallant ddewis aros 100% yn ddienw, neu gallant ddewis gadael eu manylion os ydynt yn fodlon i dîm ymchwilio'r heddlu gysylltu â nhw'n uniongyrchol.
Bydd gwybodaeth a dderbynnir gan Crimestoppers yn cael ei throsglwyddo i uned arbenigol y llu perthnasol, megis Safonau Proffesiynol neu Wrth-lygredd, i’w hasesu. Efallai y caiff ei throsglwyddo i dditectifs arbenigol i ddechrau ymchwiliad, cymryd camau i ddiogelu rhywun sydd mewn perygl, neu gofnodi’r wybodaeth i lywio ymchwiliadau yn y dyfodol.
Mae’r gwasanaeth yn eistedd ochr yn ochr â gweithdrefn gwyno bresennol pob llu ac mae wedi’i sefydlu dim ond i gymryd adroddiadau o lygredd a cham-drin difrifol a gyflawnir gan swyddogion a staff heddlu sy’n gwasanaethu.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Gavin Stephens, Cadeirydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu: “Bydd y gwasanaeth riportio hwn yn ein galluogi i weithredu drwy roi llwybr newydd, dienw a chyfrinachol i’r cyhoedd riportio llygredd, troseddoldeb, neu ymddygiad difrïol o fewn maes plismona.
“Nid ydym yn diystyru’r effaith y mae digwyddiadau diweddar wedi’i chael ar ymddiriedaeth a hyder mewn plismona, gan gynnwys canfyddiadau echrydus adroddiad Angiolini.
“Rydym wedi gwneud cynnydd o ran cryfhau gweithdrefnau sy’n ymwneud â chamymddwyn a fetio, ac mae lluoedd yn cymryd ymagwedd ragweithiol at ganfod a chael gwared ar ddrwgweithredu. Fodd bynnag, gwyddom fod mwy i'w wneud bob amser i sicrhau ein bod yn cyrraedd y safonau uchel y mae'r cyhoedd yn eu disgwyl a'u haeddu.
“Mae’r mwyafrif helaeth o swyddogion a staff yr heddlu yn gweithredu’n broffesiynol ac yn onest wrth gyflawni eu dyletswyddau i amddiffyn y cyhoedd. Rhaid i ni gymryd camau llym i gael gwared ar y rhai sy’n gyfrifol am ddrwgweithredu ym maes blismona, yn awr ac yn y dyfodol.
“Eleni, fe wnaethom wirio ein gweithlu cyfan am honiadau neu bryderon anhysbys a byddwn yn dechrau sgrinio hirdymor i sicrhau nad oes lle i swyddogion a staff llwgr neu ddifrïol guddio yn ein lluoedd.”
Dywedodd Donna Jones, Cadeirydd Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu: “Rydym i gyd wedi cael ein brawychu gan achosion ofnadwy o droseddoldeb fel y rhai a nodir yn fanwl ac yn syfrdanol yn adroddiad diweddar y Fonesig Elish Angiolini, ynghyd ag ymddygiadau echrydus eraill sydd wedi dod i’r amlwg ym maes plismona. Mae'r gwasanaeth hwn yn rhoi cyfle i'r cyhoedd rriportio eu pryderon am unigolion, ac i blismona gael gwared ar fwy o'r rhai nad ydynt yn addas i wasanaethu ac sy'n niweidio cymeriadau'r mwyafrif llethol o swyddogion sy'n ymroddedig i'n hamddiffyn.
“Mae gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau gwasanaeth heddlu effeithiol yn eu hardal heddlu, mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y lefelau uchaf o onestrwydd yn cael eu cynnal. Wrth oruchwylio gweithdrefnau cwyno, bydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, gan weithio gyda'u lluoedd, yn rhoi llais i'r rhai yr effeithir arnynt gan lygredd a chamdriniaeth yr heddlu a byddant yn dal Prif Gwnstabliaid i gyfrif am ymdrin yn effeithlon ac yn effeithiol â'r cwynion hyn a'r ymchwiliadau dilynol, ac yn gyflym ac yn bendant wrth orfodi allan y rhai y canfyddir eu bod yn disgyn yn is na’r safonau gofynnol.”
Dywedodd Mark Hallas, Prif Weithredwr yr elusen annibynnol Crimestoppers: “Rydym i gyd yn rhannu’r un nod o fod eisiau gweld swyddogion a staff heddlu peryglus a sarhaus yn cael eu canfod. Mae’r cyhoedd yn haeddu amgylchedd plismona diogel a thryloyw y gallant ymddiried ynddo.
“Yn hollbwysig, mae lansio’r gwasanaeth hwn yn rhoi opsiwn i bobl wneud yr adroddiad cychwynnol hwnnw drwy ein helusen annibynnol ac nid yn uniongyrchol i’r heddlu. Bydd gan y rhai â honiadau difrifol sydd wedi aros yn dawel o’r blaen fwy o hyder i ddod ymlaen.”
Dywedodd y Gweinidog Plismona Chris Philp: “Mae hyder y cyhoedd yn ein heddlu wedi’i niweidio’n ddifrifol. Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu wrth i ni ymdrechu i lanhau’r gweithlu a’r diwylliant, ac ailadeiladu ymddiriedaeth.
“Bydd y llinell gymorth ddienw hon yn rhoi’r hyder i bobl herio ymddygiad swyddogion sy’n disgyn islaw’r safonau uchel y mae’r cyhoedd yn eu haeddu.
“Mae hyn ochr yn ochr ag ystod eang o gamau parhaus sy’n cael eu cymryd i gael gwared ar swyddogion nad ydynt yn addas i wasanaethu a thynhau prosesau fetio i sicrhau bod y bobl gywir yn y maes plismona.”
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Andy Day, o Reoliad Gwrth-lygredd a Cham-drin y Met: “Cymeron ni'r cam eithriadol o agor y gwasanaeth riportio cyhoeddus cyntaf o’r math hwn 18 mis yn ôl gyda Crimestoppers i gryfhau ein hymdrechion parhaus i ganfod unrhyw un yn y Met a oedd yn camddefnyddio eu safle a'u grym, a chyfleu i'r cyhoedd ein penderfyniad i ddefnyddio pob arf posib i helpu i adennill eu hymddiriedaeth a'u hyder.
“Mae’r cannoedd o adroddiadau i Crimestoppers yn dangos bod y gwasanaeth wedi cael effaith sylweddol iawn, gan arwain at gyfrannu cudd-wybodaeth hanfodol at ddwsinau o ymholiadau parhaus yma a thu allan i’r Met, yn ogystal ag achosi i ni lansio ymchwiliadau newydd.
“Mae ei lwyddiant wedi bod yn gam cadarnhaol iawn i’n cymunedau yn Llundain, ac rydym yn falch bod yr holl luoedd eraill wedi penderfynu ei fabwysiadu a bydd yn cael ei gyflwyno’n genedlaethol.
“Mae’n hanfodol bod y cyhoedd yn gwybod bod systemau clir ar waith lle bydd ymddygiadau echrydus yn cael eu herio a’u trin yn gadarn a bod y rhai ym maes plismona yn gwybod y gallant ymddiried yn eu cydweithwyr.”
Mae lansiad cenedlaethol Gwasanaeth Riportio Gwrth-lygredd a Cham-drin yr Heddlu yn dilyn cyflwyniad llwyddiannus yng Ngwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd ym mis Tachwedd 2022. Ers hynny mae'r gwasanaeth riportio wedi derbyn 1988 o alwadau ac 890 o adroddiadau ar-lein, gyda 867 o ddarnau o gudd-wybodaeth wedi'u trosglwyddo i'r heddlu. Arweiniodd hyn at 728 o ymchwiliadau dan arweiniad y Met, a throsglwyddwyd y 139 o adroddiadau a oedd yn weddill i luoedd eraill.*
Yn ehangach, mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a Chymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu wedi bod yn gweithio’n agos gyda lluoedd dros y flwyddyn ddiwethaf i roi’r argymhellion a wnaed gan HMICFRS* ar waith yn dilyn ei adroddiad ar fetio, camymddwyn a chasineb at fenywod yn y gwasanaeth heddlu.
Mae lluoedd wedi gwneud gwelliannau sylweddol i weithdrefnau fetio a chamymddwyn, gyda chyfradd gyflawni o 91% yn erbyn y 28 o argymhellion a meysydd i'w gwella a amlygwyd gan HMICFRS. Mae gwelliannau mewn lluoedd yn cynnwys:
*Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu'n cyfeirio at y rhai sy'n arfer swyddogaethau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, gan gynnwys meiri a Chadeiryddion Awdurdodau Heddlu Perthnasol.
*Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi.
*Mae’r data’n ymwneud â'r cyfnod 29 Tachwedd 2022 i 29 Chwefror 2024.