Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae data newydd yn datgelu bod dros draean o fenywod wedi dioddef aflonyddu rhywiol neu droseddau rhywiol wrth gymudo ar y trên neu'r tiwb, mae arolwg a gomisiynwyd gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) yn ei awgrymu.
Mae'r arolwg diweddar hefyd yn dangos bod hanner (51%) o'r rhai sydd wedi bod yn ddioddefwyr troseddu rhywiol yn dweud bod teithwyr eraill wedi ceisio eu helpu, ond dim ond un o bob pump (18%) o bobl sydd wedi gweld aflonyddu rhywiol sydd wedi'i riportio i'r heddlu.
Yn wahanol i gred boblogaidd, mae data troseddu hefyd yn dangos bod y rhan fwyaf o droseddu rhywiol yn digwydd yn ystod cyfnod yr awr frys (5-7pm) mewn cerbydau trên prysur.
Mae timau arbenigol o swyddogion dillad plaen yn defnyddio'r data hyn i dargedu eu patrolau a nodi troseddwyr, a chefnogir ymchwiliadau gan fynediad rhwydd i ddata teithio a thros 150,000 o gamerâu TCC ar y rhwydwaith rheilffyrdd sy'n darparu delweddau cyflym a chlir o 'r rhai dan amheuaeth i ni.
Mae canfyddiadau'r arolwg yn dangos bod teithwyr ar y rheilffordd yn gwylio amdanynt ei hunain fodd bynnag, mae'n hanfodol bod digwyddiadau'n cael eu riportio i'r heddlu hefyd er mwyn i ni allu gweithredu a dal troseddwyr i gyfrif, gan wneud y rhwydwaith yn lle diogelach i bawb.
Fel rhan o'r diwydiant rheilffordd ac ymrwymiad parhaus BTP i sicrhau bod pob teithiwr yn teimlo'n ddiogel wrth deithio ar y trên, mae ymgyrch gwrth-aflonyddu rhywiol parhaus sy'n mynd i'r afael â phob math o aflonyddu rhywiol yn addysgu pobl i nodi sut mae'r sefyllfaoedd hyn yn digwydd i deithwyr ac yn eu grymuso i ymyrryd yn ddiogel a riportio cyflawnwyr.
Os ydych yn gweld ymddygiad annerbyniol megis cilwenu, hwtian, cyffwrdd, gwasgu, uwchsgertio neu ddinoethi anweddus, cofiwch:
Dywedodd y Ditectif Prif Uwch-arolygyddPaul Furnell:
"Byddaf yn gwarantu bod y mwyafrif ohonom wedi dweud wrth ein merched, mamau neu ffrindiau am fod yn ofalus ar eu ffordd adref pan ydynt yn teithio ar eu hunain yn y nos - efallai am rannu eu teithiau a chadw at ardaloedd â goleuadau da.
"Ond fe wyddom y gall aflonyddu a throseddu rhywiol ddigwydd ar unrhyw adeg yn y dydd, ac mae ein ffigyrau'n dangos ei fod yn fwyaf tebygol o ddigwydd ar yr oriau prysuraf pan yw'r cerbydau'n llawnaf. Mae hyn yn golygu bod gennym i gyd ran i'w chwarae o ran anwybyddu ein ffonau neu bapurau newyddion am ennyd a bod yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd o'n cwmpas - ac os ydym yn gweld rhywbeth nad yw'n iawn, gwneud rhywbeth amdano, os yw hynny'n golygu ymyrryd os ydych yn teimlo'n ddiogel wrth wneud hynny neu ei riportio wrth yr heddlu.
"Nid ydym yn gofyn i bobl blismona'r rheilffordd oherwydd dyna ein gwaith ni, ond mae angen i bobl riportio'r hyn sy'n digwydd wrthym fel y gallwn ni weithredu. Mae adroddiadau'n darparu'r wybodaeth allweddol i ni sydd ei hangen arnom i nodi mannau problemus a thargedu ein patrolau i ddal troseddwyr a'u dwyn i gyfiawnder. Mae dileu'r ymddygiad annerbyniol hwn yn flaenoriaeth uchaf i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
"Byddwn i'n annog pawb i lawrlwytho'r ap Railway Guardian a rhoi gwybod i ni os ydych yn gweld neu'n profi'r math hwn o droseddu. Byddwn ni'n eich credu a'ch cymryd o ddifrif bob tro
Dywedodd Jacqueline Starr, Prif Weithredwr y Rail Delivery Group:
"Yn drist, mae profiadau aflonyddu rhywiol yn realiti i lawer o fenywod, ond fel diwydiant mae ein neges yn glir, mae unrhyw fath o aflonyddu rhywiol ar y rhwydwaith rheilffyrdd yn gwbl annerbyniol ac rydym yn gweithio gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i wynebu'r broblem hon.
"Mae'r data diweddaraf yn dangos nad yw aflonyddu'n digwydd allan o'r golwg. Fel gwylwyr gallwn ni helpu i wynebu'r broblem hon drwy riportio digwyddiadau neu wneud ymyriadau diogel. Cafodd ein hymgywch ei chreu gyda BTP i amlygu'r mathau gwahanol o aflonyddu rhywiol a helpu pobl i feddwl am gamau syml y gallant eu cymryd heb achosi niwed iddynt eu hunain.
"Rydym wedi ymrwymo i wneud i bawb deimlo'n ddiogel ar y rheilffordd ac rydym am i bawb deimlo'n hyderus i riportio unrhyw beth sy'n eu gwneud yn anghyfforddus drwy decstio 61016 neu ddefnyddio'r ap Railway Guardian."