Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fe unodd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) â heddluoedd ledled Llundain a De-ddwyrain Lloegr mewn gweithgarwch wedi’i dargedu ar gyfer wythnos weithredu Ymgyrch Sceptre, rhwng 9 a 15 Tachwedd.
Mae Ymgyrch Sceptre yn ymgyrch genedlaethol sy'n dod â heddluoedd ynghyd mewn cyfnod cydgysylltiedig o ddwysáu i fynd i'r afael â throseddau cyllyll a thrais ehangach. Mae'r wythnos o weithredu'n chwyddo gwaith atal a gorfodi BTP trwy gydol y flwyddyn i atal troseddoldeb o'r natur hon o'r rhwydwaith reilffyrdd, ac yn pwysleisio ei ymroddiad i ddiogelwch teithwyr.
Yn ystod yr wythnos gwelwyd swyddogion BTP mewn iwnifform a dillad plaen yn patrolio'r rhwydwaith reilffyrdd ochr yn ochr â chydweithwyr o heddluoedd ledled Llundain a De-ddwyrain Lloegr. Roedd y dulliau atal a ddefnyddiwyd yn cynnwys stopio a chwilio, bwâu canfod metel, unedau cŵn a swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i adnabod y rhai sydd â bwriad troseddol.
Dim ond un elfen o ymrwymiad BTP i fynd i’r afael â throseddau cyllyll a thrais ehangach yw’r dulliau hyn o atal a gorfodi. Yn gysylltiedig â hyn mae strategaeth addysg aml-asiantaeth gyffredinol i ddangos i bobl ifanc pam nad yw cario cyllell byth yn ddewis cywir. Mae hyn yn galw am ymdrechion nid yn unig yr heddlu, ond ysgolion lleol, elusennau, ffrindiau a theuluoedd, ac aelodau blaenllaw o'r gymuned.
O ddydd Llun 9 Tachwedd i ddydd Sul 15 Tachwedd yn rhanbarth Llundain a De-ddwyrain Lloegr, gwnaeth swyddogion 44 o arestiadau, fe wnaethon nhw gynnal 258 o chwiliadau ac fe wnaethon nhw atafaelu 12 arf a £1,940 mewn arian parod. Mae'r wythnos weithredu yn dwysáu'r gwaith a wneir trwy gydol y flwyddyn gan BTP i amddiffyn teithwyr a sicrhau bod gan bawb yr hawl i fwynhau taith ddiogel.
Dywedodd Uwch-arolygydd Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Mark Lawrie: “Yn ystod yr wythnos buom yn gweithio’n agos gyda heddluoedd eraill ledled y rhanbarth i fynd i’r afael ac atal yn rhagweithiol droseddau treisgar ar y rhwydwaith.
“Yn ffodus mae troseddau cyllell a threisgar yn brin ar y rhwydwaith reilffyrdd. Ein nod yw atal troseddwyr cyn y gall trais ddigwydd, dyna pam mae ein swyddogion yn cyflawni ymgyrchoedd rhagweithiol megis Sceptre
“Mae'n bwysig cofio mai'r cyhoedd sy'n teithio yw ein llygaid a'n clustiau. Os ydych chi byth yn gweld unrhyw beth amheus, neu unrhyw beth nad yw'n teimlo'n iawn, gallwch anfon neges destun atom yn gynnil ar 61016. ”
Mae rhwydwaith BTP o heddlu mewn iwnifform, swyddogion mewn dillad plaen a dros 150,000 o gamerâu teledu cylch cyfyng yn gwylio’r rheilffordd 24/7; oherwydd mae gan bawb yr hawl i daith ddiogel.