Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae naw o bobl wedi’u harestio am droseddau cyffuriau ar ôl cyfres o warantau a chwiliadau, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Ar ddydd Gwener (10 Gorffennaf), gweithredodd swyddogion warantau mewn wyth cyfeiriad ym Mryste, Llwydlo a Llundain.
Yn ogystal â maint o gyffuriau, atafaelwyd mwy na £30,000 o arian parod ac eitemau gwerth uchel yn yr ymgyrch a oedd yn cynnwys dros 100 o swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, yn ogystal â swyddogion o luoedd lleol
Mae dwy fenyw, 17 a 21 oed, a saith dyn, dau 23 oed, un 24 oed, dwy 25 oed, un 26 oed, ac un 27 oed, wedi’u harestio ar amheuaeth o droseddau cyflenwi cyffuriau.
Dywedodd Ditectif Arolygydd BTP Paul Stanley: “Mae cyfres gwarantau heddiw yn ganlyniad i fisoedd o waith, yn casglu gwybodaeth a chudd-wybodaeth. Mae'r arestiadau hyn yn arddangos ein hymdrech i dargedu gangiau sy'n defnyddio'r rheilffordd i symud cyffuriau ac arian parod ledled y wlad a gobeithio ei fod yn rhoi sicrwydd i'n cymunedau ein bod wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i fynd i'r afael â'r math hwn o droseddoldeb.
“Rydym yn gwybod bod gweithgareddau Llinellau Cyfffuriau yn digwydd ar y rhwydwaith reilffyrdd, ac mae'n rhywbeth rydym yn gweithio'n galed i'w atal - dim ond un enghraifft yw'r ymgyrch hon o'r mentrau sydd gennym ar waith i fynd i'r afael â'r mater hwn."
Os gwelwch unrhyw beth amheus ar y rhwydwaith rheilffyrdd, gallwch anfon neges destun at BTP ar 61016 neu ffonio 0800 40 50 40. Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.