Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:59 10/12/2021
Mae'r mis hwn yn nodi dwy flynedd ers dechrau Tasglu Llinellau Cyffuriau Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP), ar ôl cael ei sefydlu gyda chyllid y Swyddfa Gartref ym mis Rhagfyr 2019.
Yn y cyfnod hwnnw, mae'r tîm wedi gwneud mwy na 1,600 o arestiadau ac wedi ymafael yn 1,021 o feintiau cyffuriau, £610k mewn arian parod ac wedi tynnu 345 o arfau peryglus o'r rhwydwaith rheilffyrdd.
Fe'i crëwyd i darfu ar droseddwyr sy'n defnyddio'r rheilffordd i symud cyffuriau ledled Cymru, Lloegr a'r Alban a diogelu'r plant a'r oedolion agored i niwed sy'n cael eu hecsbloetio yn y gweithgarwh hwn.
Roedd unigolion y daethpwyd ar eu traws gan swyddogion BTP a ddaliwyd yn y math hwn o drosedd pan ffurfiwyd y Tasglu gyntaf, ar gyfartaledd, yn 18 oed – yn sylweddol iau na'r cyfartaledd cenedlaethol o 26 oed.
Mae ditectifs wedi defnyddio'r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern, a gyflwynwyd yn 2015, i sicrhau bod y rhai sy'n manteisio ar unigolion yn eu busnes cyflenwi cyffuriau yn cael cosb ddigon difrifol am eu troseddau.
Mor ddiweddar â mis Hydref ymddangosodd tri o bobl yn y llys a gyhuddwyd mewn cysylltiad â throseddau o dan y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern ar ôl i fachgen 16 oed gael ei ddal yn meddu ar gyffuriau Dosbarth A ar y rheilffordd.
Nid yw hon yn enghraifft unigryw – mae'r tîm wedi sicrhau 18 o gyhuddiadau o dan y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern dros y cyfnod o ddwy flynedd.
Yn ogystal, mae 82 o blant ac oedolion sy'n agored i niwed a nodwyd gan swyddogion wedi'u cyfeirio at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer diogelu.
Mae'r Tasglu bellach yn cynnwys cyfanswm o 68 o swyddogion a staff yr heddlu sydd ag arbenigedd wedi'i ychwanegu o'r sectorau cymdeithasol ac elusennol ar ffurf dau weithiwr cymdeithasol llawn amser a dau aelod o staff wedi'u secondio o Gymdeithas y Plant.
Mae'r ychwanegiadau hyn wedi gwella ffocws y tîm ymhellach ar ddiogelu, gan sicrhau bod y dioddefwyr sy'n cael eu hecsbloetio gan gangiau Llinellau Cyffuriau yn cael y cymorth sydd ei angen i'w cael allan o niwed.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Gareth Williams, arweinydd Tasglu Llinellau Cyffuriau BTP,: "O'r cychwyn cyntaf roeddem yn gwybod bod yn rhaid i ni fynd at ein gwaith gyda diogelu fel prif flaenoriaeth o ystyried oedrannau ifanc y bobl rydym wedi dod ar eu traws yn symud cyffuriau ar y rheilffordd.
"Mae tua 40 y cant o'r rhai rydym wedi'u harestio dros y ddwy flynedd wedi bod o dan 18 oed, ond dim ond un o bob pump ohonynt yr ydym wedi'u troseddoli.
"Nid ydym yn bwriadu troseddoli pobl ifanc, rydym yn eu gweld yn gyntaf fel dioddefwyr ac rydym yn ymroi i'w cael allan o afael gangiau gwenwynig sy'n manteisio arnynt er eu budd ariannol eu hunain.
"Mae ein gweithrediadau a'n hymchwiliadau a arweinir gan gudd-wybodaeth wedi arwain at gyflenwyr cyffuriau di-rif y tu ôl i fariau, llinellau cyffuriau wedi'u datgymalu a lleihau'r cyflenwad o gyffuriau niweidiol i'n cymunedau.
"Nid yw'r gwaith yn dod i ben yma – rydym yn ymroddedig i barhau i weithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn yr heddlu a'r diwydiant rheilffyrdd i fynd ar drywydd troseddwyr, dod â'u mentrau troseddol i ben a'u carcharu."
Dywedodd y Gweinidog Trosedd a Phlismona, Kit Malthouse: “Mae tasglu’r BTP wedi gwneud gwaith gwych yn brwydro yn erbyn Llinellau’r Sir dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Ynghyd â’n partneriaid plismona rydym wedi cymryd camau breision yn datgymalu’r gangiau ffiaidd yn pedlera cyffuriau i’n cymunedau, gan gau dros 1,500 o linellau sirol, gwneud dros 7,400 o arestiadau a diogelu mwy na 4,000 o oedolion a phlant bregus.
“Mae angen i’r troseddwyr hyn wybod nad ydyn ni’n stopio yma. Mae gafael yn y rhwydwaith trafnidiaeth yn rhan allweddol o'n Strategaeth Cyffuriau 10 mlynedd uchelgeisiol, felly byddwn yn ehangu'r Tasglu Llinellau Sirol BTP pwrpasol ac yn gwneud y rhwydwaith rheilffyrdd yn lle risg uchel i'r gangiau troseddau cyfundrefnol hyn gynnal eu busnes."