Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diweddariad ar 2 Rhagfyr:Er nad yw wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, mae swyddogion yn credu'n drist mai’r dyn a fu farw ywKevin Mauger, 53, o Eastleigh. Byddwch gystal â pharchu preifatrwydd ei deulu yn ystod yr amser anhygoel o anodd hwn.
Galwyd swyddogion i Depo Rheilffordd Eastleigh am 2.50pm yn dilyn adroddiadau bod gweithiwr rheilffordd wedi cael ei anafu wrth ddefnyddio darn o beirianwaith.
Mynychodd parafeddygon hefyd, serch hynny, er gwaethaf eu hymdrechion gorau, yn anffodus cafodd dyn 53 oed ei gyhoeddi’n farw yn y fan a’r lle.
Hysbyswyd ei deulu.
Arestiwyd dyn yn ei bedwardegau mewn cysylltiad â’r digwyddiad yn y fan a’r lle ac aethpwyd ag ef i ddalfa’r heddlu i’w holi. Mae bellach wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.
Ar hyn o bryd mae swyddogion yn gweithio ochr yn ochr â'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch i sefydlu'r amgylchiadau llawn y tu ôl i farwolaeth y gweithiwr rheilffordd.
Dywedodd y Ditectif Brif-aolygydd Paul Langley:“Mae hwn yn ddigwyddiad trasig ac mae ein cydymdeimlad dwysaf â theulu’r dyn sy’n cael cefnogaeth swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig.
“Mae ymchwiliad llawn a thrylwyr i’r digwyddiad bellach ar y gweill, ochr yn ochr â’r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch, er mwyn sefydlu’n union beth ddigwyddodd i arwain at farwolaeth drist y gweithiwr rheilffordd hwn.
"Hoffwn apelio i unrhyw un sy'n credu bod ganddyn nhw wybodaeth ddefnyddiol gysylltu â ni trwy anfon neges destun at 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 229 o 30 Tachwedd."