Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn cefnogi cefnogwyr a'r diwydiant rheilffyrdd drwy gydol Ewro 2020 gyda mwy o ddiogelwch ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd.
Bydd gemau'n cael eu cynnal yn stadiwm Wembley yn Llundain ac ym Mharc Hampden yn Glasgow o ddydd Sul 13 Mehefin ymlaen, yn ogystal â mewn lleoliadau eraill yn Ewrop.
Bydd y twrnamaint yn cyrraedd uchafbwynt gyda rownd derfynol yr Ewros yn stadiwm Wembley ar ddydd Sul 11 Gorffennaf.
Drwy gydol yr amser, bydd swyddogion mewn lleoliadau allweddol, yn patrolio trenau a gorsafoedd ledled y wlad, gan gefnogi cefnogwyr wrth iddynt deithio i ddigwyddiadau.
Gall teithwyr hefyd ddisgwyl gweld timau Ymgyrch Servator yn cynnal patrolau anrhagweladwy, amlwg iawn ar draws y rhwydwaith. Mae'r swyddogion hyn wedi'u hyfforddi'n dda i nodi'r rhai sydd â bwriad troseddol neu derfysgol, a byddant yn cael eu cefnogi gan adnoddau arbenigol megis cŵn chwilio a'r heddlu arfog.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ricky Twyford: "Mae'n wych y gallwn groesawu'r Ewros i Lundain a Glasgow yn dilyn 14 mis heriol.
"Yn bennaf oll, dylai cefnogwyr deimlo'n ddiogel ac yn hyderus wrth deithio ar y rheilffordd. Fel gweddill y flwyddyn, bydd ein swyddogion yn patrolio'r rhwydwaith, gan sicrhau diogelwch pawb sy'n ei ddefnyddio.
"Ar ddiwrnodau gêm bydd mwy o bresenoldeb mewn lleoliadau allweddol wrth i ni gefnogi dychwelyd i chwaraeon.
"Fel gyda phob digwyddiad mawr, mae'n bwysig iawn i bawb sy'n defnyddio'r rheilffordd aros yn effro, bod yn wyliadwrus, a riportio unrhyw beth amheus i staff gorsafoedd, swyddog BTP, neu drwy decstio 61016 gyda rhai manylion byr.
"Mae'n well bod yn ddiogel a rriportio unrhyw bryderon waeth pa mor fach y gallent ymddangos gan y gallai unrhyw ddarn o wybodaeth fod yn bwysig iawn.
"Rydym hefyd yn annog pawb sy'n teithio i ddilyn y ddeddfwriaeth Coronafeirws bresennol, ac i wisgo masg wyneb pan ydynt ar y rhwydwaith rheilffyrdd oni bai fod gennych esemptiad."