Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw (15 Mehefin), mae gorchuddion wyneb yn dod yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Lloegr o dan Reoliadau Diogelu Iechyd newydd.
Bydd swyddogion yn parhau i gefnogi staff rheilffyrdd wrth ymgysylltu â theithwyr, gan egluro pwysigrwydd atal y feirws rhag lledaenu ac annog pobl i wisgo gorchuddion wyneb
Fodd bynnag, fel y dewis olaf un, bydd swyddogion nawr yn gallu rhoi dirwyon hysbysiadau cosb benodedig am dorri'r rheoliadau.
Bydd plant o dan 11 oed wedi'u heithrio, ynghyd ag unrhyw un na allant wisgo gorchudd wyneb oherwydd salwch corfforol neu feddyliol, oedran neu anabledd.
Cynghorir teithwyr i wirio canllawiau llawn y llywodraeth ar eu gwefan
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Sean O’Callaghan:“Rydym yn hyderus y bydd y rhai sydd angen defnyddio’r rheilffordd yn ymddwyn yn gyfrifol ac y byddant am chwarae eu rhan wrth helpu i amddiffyn ei gilydd a chydymffurfio â’r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb.
Rydym yn deall efallai na fydd pawb yn ymwybodol ei bod bellach yn orfodol gwisgo gorchuddion wyneb - felly ein hymagwedd fydd ymgysylltu â'r cyhoedd, egluro polisi newydd y llywodraeth a'u hannog i ddilyn y rheoliadau newydd ar gyfer teithio ar y rheilffordd.
“Dim ond fel dewis olaf un y byddwn yn gorfodi ar ffurf dirwyon. Rydym yn siŵr y bydd y cyhoedd am fod yn gyfrifol a gwneud eu rhan i amddiffyn eraill trwy wisgo gorchuddion wyneb.”