Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd y gwasanaethau brys yn Llundain yr wythnos ddiwethaf i brofi eu hymateb brys ar y cyd i ddigwyddiad mawr yng ngorsaf reilffordd Cannon Street.
Fe wnaeth Exercise Iron Titan, dan arweiniad Cyngor Diogelwch y Ddinas (CSC), brofi cyfranogwyr o Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP), Gwasanaeth Ambiwlans Llundain (LAS), Brigâd Dân Llundain (LFB), Network Rail (NWR) a chwmni gweithredu trenau Southeastern ochr yn ochr â Transport for London (TfL) ar eu hymateb i ddigwyddiad mawr ar ddydd Sul (23 Mawrth).
Mae'r ymarferion hyn yn gyfle gwerthfawr i ddatblygu, profi a chryfhau ymatebion brys ar gyfer ymdrin â digwyddiadau mawr a sicrhau llinellau cyfathrebu clir rhwng pawb dan sylw.
Mae ymarferion fel Iron Titan wedi'u cynllunio gyda'r hyn a ddysgwyd ac arsylwadau o ddigwyddiadau'r gorffennol er mwyn gwella ymatebion i ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Cynlluniwyd ymarfer yr wythnos diwethaf yng ngorsaf reilffordd Cannon Street gyda’r digwyddiad trasig ym 1991 mewn golwg, pan darodd trên i mewn i’r arosfannau clustogi ar ddiwedd y llinell rheilffordd gan arwain at ddwy farwolaeth a channoedd yn rhagor yn cael eu hanafu.
Cyn y sesiwn friffio, eglurwyd a chydnabuwyd arwyddocâd y ddamwain gan bawb a gymerodd ran yn yr hyfforddiant, a chafwyd munud o dawelwch er cof a pharch at y rhai a gollodd eu bywydau.
Dywedodd rheolwr y digwyddiad, PS Mark Kemp: “Er bod y digwyddiadau mawr hyn yn brin, mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i gynnal profion rheolaidd gyda’n partneriaid ac yn adolygu ein cynlluniau i sicrhau ein bod mor barod â phosibl.
“Mae ymatebion aml-asiantaeth i ddigwyddiadau fel hyn yn aml yn gymhleth ac yn gyflym, a rhoddodd yr ymarfer hwn gyfle amhrisiadwy i ni dreialu ein hymateb a’n cyfathrebiadau i leihau niwed i’r cyhoedd a rheoli ac ymateb i ddigwyddiad mawr yn effeithiol.”
Dywedodd Natasha Wills, Cyfarwyddwr Cydnerthedd ac Asedau Arbenigol Gwasanaeth Ambiwlans Llundain: “Er ein bod yn gobeithio na fydd y mathau hyn o ddigwyddiadau byth yn digwydd, mae angen i Lundain fod yn barod ar gyfer unrhyw bosibilrwydd.
“Mae’r ymarferion hyn yn rhoi’r cyfle i ni brofi ein tactegau a sicrhau ein bod yn gallu darparu’r gofal gorau posibl i Lundeinwyr mewn sefyllfaoedd cymhleth sy’n datblygu’n gyflym.
“Mae ein timau cydnerthedd ac asedau arbenigol yn arbenigwyr mewn cynllunio ar gyfer digwyddiadau mawr, gan gynnwys arwain ein cyfranogiad mewn ymarferion aml-asiantaeth a gweithredu argymhellion perthnasol o ymholiadau, er enghraifft, ymosodiad Arena Manceinion.”