Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dyfarnwyd Medal Heddlu'r Frenhines (QPM) i Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2021 y Frenhines am ei gyfraniad sylweddol i blismona'r DU dros yrfa 37 mlynedd a'i ffocws diwyro ar gadw mwy na 3 biliwn o deithiau teithwyr yn ddiogel bob blwyddyn.
Ymunodd Adrian Hanstock â BTP yn 2014 fel ei Ddirprwy Brif Gwnstabl (DCC), gan ddod yn uwch arweinydd dibynadwy ac uchel ei barch gyda chydweithwyr yn yr heddlu a rhanddeiliaid ar draws y diwydiant rheilffyrdd.
Mae wedi darparu arweinyddiaeth weithredol ragorol, p'un a yw'n mynd i'r afael â throseddau difrifol, yn amddiffyn pobl sy'n agored i niwed neu mewn ymateb iddigwyddiadau mawr. Mae DCC Hanstock hefyd wedi goruchwylio trawsnewid BTP a'i fuddsoddiad mewn galluoedd digidol modern, gwell dull o ymchwilio i droseddu ac wedi ymgorffori gwelliannau yn safonau'r llu.
Mae wedi bod yn weithgar wrth gryfhau amrywiaeth yr heddlu ac wedi sbarduno gwelliannau yn y gwasanaethau llesiant sydd ar gael i swyddogion rheng flaen a staff.
Cyn ymuno â BTP, cafodd DCC Hanstock yrfa ddisglair yn y Gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd lle arweiniodd ymgyrchoedd sensitif iawn i frwydro yn erbyn troseddau gynnau a masnachu trefnedig o gyffuriau, ynghyd â chymryd rheolaeth weithredol ar bob diwrnod o Gemau Olympaidd Llundain 2012, gan sicrhau y gallai cystadleuwyr rhyngwladol, urddasolion a gwylwyr deithio'n ddiogel rhwng lleoliadau Olympaidd ac o amgylch Llundain.
Am wyth mlynedd mae wedi bod yn arweinydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar gyfer defnyddio pwerau stopio a chwilio ac mae'n darparu arweiniad i arweinwyr yr heddlu ledled y wlad, gan osod cyfeiriad gweithredol sydd wedi sicrhau gwell canlyniadau gweithredol ac wedi gwella hyder cymunedol. Mae wedi dylanwadu ar bolisi ar lefel y llywodraeth ac wedi cyflwyno canllawiau cenedlaethol i gefnogi defnydd effeithiol a theg o'r pŵer hwn sydd gan yr heddlu.
Mae DCC Hanstock hefyd yn un o ymddiriedolwyr sylfaenol Cronfa Les y Cŵn Rheilffordd, elusen a sefydlwyd i ddarparu cymorth lles i gŵn heddlu sydd wedi ymddeol
Dywedodd y Prif Gwnstabl Paul Crowther CBE:
“Rwyf yn falch iawn o weld ymrwymiad Adrian yn cael ei gydnabod gan Ei Mawrhydi yn ei gwobrau Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd. Mae Adrian wedi cael effaith sylweddol ar blismona'r DU ac mae'n fodel rôl ysbrydoledig sy'n cyflawni'n gyson y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir. Mae ei ymroddiad i blismona am fwy na 35 mlynedd, â ffocws clir ar amddiffyn y cyhoedd, o'r radd flaenaf ac rwyf yn falch o weld hyn yn cael ei gydnabod yn y Rhestr Anrhydeddau."
Meddai'r Dirprwy Brif Gwnstabl Adrian Hanstock QPM:
“Rwyf yn falch iawn o dderbyn yr anrhydedd hon. Mae'r cyhoeddiad yn syndod rhyfeddol ac mae cael QPM yn fraint anhygoel.
“Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi cyflwyno rhai heriau digymar ond rwyf yn ffodus i weithio gyda rhai unigolion a thimau talentog sydd bob dydd yn ymroi eu bywydau i amddiffyn y cyhoedd a cheisio cyfiawnder i'r rhai a dargedir gan droseddwyr, heb sôn am fynd i'r afael â'r materion rhyfeddol a gyflwynwyd yn 2020.
“Hoffwn gydnabod yn arbennig eu proffesiynoldeb eithriadol a’u hymroddiad i wasanaeth cyhoeddus wrth dderbyn y wobr hon, yn ogystal â mynegi fy niolchgarwch am gefnogaeth ragorol teulu a ffrindiau dros y blynyddoedd."
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
Bywgraffiad - Dirprwy Brif Gwnstabl Adrian Hanstock
Yn enedigol o Swydd Nottingham, cychwynnodd Adrian Hanstock ei yrfa fel clerc Cofnodion Troseddol gyda Heddlu Swydd Nottingham lle cafodd ei swyno gan fanylion troseddau ac ymchwiliadau a nodwyd mewn adroddiadau troseddau'r archif y gofynnwyd iddo ymchwilio iddynt.
Daeth yn gwnstabl heddlu ym 1985 yn union wrth i streic y glöwr cenedlaethol ddod i ben ac roedd yn patrolio’r gylchdaith yn Sutton-in-Ashfield, tref lofaol fach yng ngogledd Swydd Nottingham lle cafodd ei gyflwyno gyntaf i heriau a gwobrau plismona yn y gymuned.
Gan weithio ei ffordd i fyny trwy'r rhengoedd, gan ennill enw da fel ditectif ymroddedig ac arweinydd blaengar, trosglwyddodd i'r Gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd ar ddiwedd y 1990au lle arweiniodd ymgyrchoedd sensitif iawn i frwydro yn erbyn troseddau gynnau a masnachu trefnedig o gyffuriau, yn ogystal ag ymholiadau i droseddau rhywiol difrifol.
Yn dilyn cyfnod yn arwain plismona ym Mwrdeistref Enfield yng Ngogledd Llundain, mynychodd y Cwrs Gorchymyn Strategol yng Ngholeg yr Heddlu Bramshill, gan ddod yn Gomander yn 2011.
Roedd gan Mr Hanstock rôl sylweddol yn ystod Gemau Olympaidd Llundain 2012 gan gymryd rheolaeth weithredol bob dydd ac yn sicrhau y gallai cystadleuwyr rhyngwladol, urddasolion a gwylwyr deithio'n ddiogel rhwng lleoliadau Olympaidd ac o amgylch Llundain trwy gydol y Gemau.
Fe fu’n arweinydd strategol Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar gyfer Stopio a Chwilio ers 2013, gan ddefnyddio ei sgiliau diplomyddiaeth sylweddol wrth gydbwyso’r heriau gweithredol sylweddol a’r buddiannau cymunedol sylweddol a godwyd trwy ddefnyddio’r pwerau.
DIWEDD