Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:31 09/04/2021
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Lucy D’Orsi:
"Gyda thristwch mawr y dysgon ni am farwolaeth Ei Uchelder Brenhinol, Dug Caeredin, y bore yma.
"Yn Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, rydym wedi bod yn falch o gymryd cyfrifoldeb am blismona'r Trên Brenhinol trwy gydol ei hanes.
"Dros y blynyddoedd hynny, mae swyddogion rheng flaen wedi cael yr anrhydedd o gynorthwyo wrth i'r teulu Brenhinol gyflawni eu dyletswyddau ledled Cymru, Lloegr a'r Alban.
"Ar bob un o'r achlysuron hynny, canfu swyddogion yn unfrydol fod y Dug Caeredin yn ddyn cynnes a chyfeillgar a oedd bob amser yn cymryd yr amser i ddweud diolch neu i rannu jôc fach gyda swyddogion ar ddyletswydd. Bydd colled fawr ar ei ôl.
"O bawb yn BTP, mae ein meddyliau a'n gweddïau yn mynd i'r Teulu Brenhinol ar yr adeg anodd hon."