Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:50 13/10/2022
Datgymalodd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) ddwy linell cyffuriau ac arestio 75 o bobl yn ystod wythnos genedlaethol o weithredu yn mynd i'r afael â chyflenwi cyffuriau.
Fel rhan o'r gweithgarwch uwch, cafodd sawl arestiad ei wneud yn Sussex a arweiniodd at atafaelu llinell cyffuriau wedi'i frandio. Canfu dadansoddiad o ddata negeseuon y ffôn ei fod yn cael ei ddefnyddio gan droseddwyr cyfundrefnol i gyflenwi bron i 100 o bobl â chyffuriau Dosbarth A niweidiol.
Fe wnaeth swyddogion sy'n ymchwilio i'r llinell wedi'i brandio ei defnyddio i anfon negeseuon at y rhestr dderbynwyr gan eu cyfeirio at wasanaethau ddiogelu a chymorth dibyniaeth ar gyffuriau.
Cynhaliwyd cyfanswm o 90 o ymgyrchoedd rhwng 3 a 9 Hydref, gyda hanner ohonynt ar y cyd â heddluoedd lleol. Adleolodd swyddogion mewn gorsafoedd ac ar wasanaethau ar reilffordd y DU a gwneud 64 o atafaeliadau cyffuriau, tynnu 26 o arfau o'r rheilffordd a diogelu saith o blant.
Cafodd yr wythnos ei chydlynu gan Dasglu Llinellau Cyffuriau pwrpasol BTP ac roedd ymgyrchoedd yn cynnwys swyddogion mewn iwnifform a dillad plaen, cŵn cyffuriau goddefol a bwâu canfod metel.
Cafodd arbenigwyr ym maes camfanteisio ar blant eu secondio i'r Tasglu o'r trydydd sector gan weithio'n agos gyda swyddogion drwy gydol yr wythnos i flaenoriaethu diogelu unigolion sy'n cael eu hecsbloetio gan gangiau llinellau cyffuriau.
Ar y cyd â'r wythnos o weithredu fe wnaeth BTP hyrwyddo'r ymgyrch ymwybyddiaeth Look Closer [Edrych yn Agosach] sydd wedi'i datblygu mewn partneriaeth â Chymdeithas y Plant.
Nod yr ymgyrch yw addysgu gweithwyr rheilffordd a theithwyr ar arwyddion sy'n awgrymu ecsbloetio plant, a riportio unrhyw bryderon i'r heddlu.
Dywedodd y Prif Arolygydd Rachel Griffiths o Dasglu Llinellau Cyffuriau BTP: "Mae'r canlyniadau hyn yn dangos llwyddiant ein timau o ran cau llinellau cyffuriau a diogelu unigolion bregus, fodd bynnag mae'n bwysig nodi bod hwn yn golygu busnes fel arfer i ni yn BTP.
"Mae ein timau ar y rhwydwaith yng Nghymru, Lloegr a'r Alban bob dydd yn rhyng-gipio cyffuriau ac yn targedu'r rheiny ar frig y gadwyn gyflenwi, gwneud arestiadau a rhoi troseddwyr gerbron y llysoedd.
"Rwy'n falch o'r ffaith ein bod yn blaenoriaethu diogelu plant sy'n cael eu gorfodi gan y troseddwyr hyn i redeg cyffuriau gan ddefnyddio'r rheilffordd. Rydyn ni mor benderfynol ag erioed i nodi'r plant hyn a sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i'w tynnu allan o afael gangiau gwenwynig.
"Mae'r cyhoedd a staff y rheilffyrdd yn parhau i fod yn llygaid ac yn glustiau i ni ar y rheilffordd, ac fe allant chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â gweithgarwch llinellau cyffuriau. Os ydych chi'n sylwi ar arwyddion ecsbloetio plant neu gyflenwi cyffuriau ar y rhwydwaith rheilffyrdd, rwy'n eich annog i'w riportio i ni drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40."
Dywedodd James Simmonds-Read, Rheolwr Rhaglen Genedlaethol rhaglen Atal Cymdeithas y Plant, sy'n rhedeg Look Closer,: "Mae ysglyfaethwyr yn paratoi plant wyneb yn wyneb ac ar-lein, ac yna'n defnyddio bygythiadau a thrais brawychus i'w gorfodi i gyflawni troseddau fel cario cyffuriau neu i gael eu hecsbloetio'n rhywiol neu ar gyfer llafur.
"Efallai fod pobl ifanc yn rhy ofnus i ddweud wrth rywun beth sy'n digwydd neu efallai y gallent fod wedi cael eu trin i feddwl eu bod yn gwneud dewis.
"Rydym yn gweithio gyda'r heddlu drwy Look Closer i sicrhau, pan fydd pryderon yn cael eu riportio iddynt, bod plant yn cael eu nodi fel dioddefwyr ac yn cynnig cefnogaeth, ochr yn ochr ag ymdrechion hanfodol i ddod â'r troseddwyr sy'n eu hecsbloetio o flaen eu gwell.
"Trwy riportio pethau nad ydynt yn teimlo'n iawn, naill ai yn y gymuned neu ar-lein, efallai eich bod yn helpu plentyn i ddianc rhag sefyllfa o gam-drin erchyll."