Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:19 21/10/2021
Gwnaed ymyriadau hanfodol i ddiogelu pobl agored i niwed ac atafaelwyd llawer iawn o gyffuriau ar y rhwydwaith reilffyrdd wrth i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) gymryd rhan mewn wythnos genedlaethol o gamau uwch i darfu ar weithgaredd Llinellau Cyffuriau.
Wedi'i gydlynu gan Dasglu Llinellau Cyffuriau pwrpasol y llu, yn ystod yr wythnos (11-17 Hydref) gwelwyd swyddogion yn gweithio gyda heddluoedd rhanbarthol ar ymgyrchoedd mewn gorsafoedd a llwybrau trên allweddol ledled y DU.
Roedd y rhain yn cynnwys cymysgedd o swyddogion mewn dillad plaen ac iwnifform gyda chŵn cyffuriau a bwâu canfod metel, i gael gwared ar gyffuriau niweidiol ac arfau peryglus o'r rheilffordd a'r cymunedau.
Ar draws y cyfnod o saith diwrnod cynhaliodd BTP 88 o ymgyrchoedd, gyda hanner ohonynt ar y cyd â heddluoedd rhanbarthol.
Arestiwyd 41 o bobl i gyd, ac atafaelodd swyddogion 52 o wahanol symiau o gyffuriau, £50k mewn arian parod, 43 ffôn a symudwyd 32 o arfau peryglus o'r rheilffordd.
Hefyd fe wnaethon nhw ddiogelu 15 o blant ac oedolion agored i niwed, ymweld â chyfeiriad wedi''i gogio a chipio un ‘llinell ddelio’ - ffôn symudol yn gysylltiedig â gwerthu cyffuriau.
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Gareth Williams, arweinydd Tasglu Llinellau Cyffuriau BTP:“Mae'r canlyniadau hyn yn dyst i waith ymroddedig fy nhîm mewn partneriaeth â'n cydweithwyr yn yr heddlu ac yn atgoffa troseddwyr nad yw'r rheilffordd yn opsiwn ymarferol i symud cyffuriau, nac yn wir bobl sy'n cael eu hecsbloetio, rhwng lleoliadau.
“Mae cyffuriau maen nhw'n eu dosbarthu i gymunedau yn difetha bywydau ac rydyn ni'n datblygu ac yn rhannu ein darlun cudd-wybodaeth yn barhaus, i amrywio ein tactegau a datgymalu eu gweithrediadau troseddol.
“Fe wnaeth yr wythnos gydgysylltiedig hon roi cyfle inni daflu goleuni ar ein gwaith gweithredol rhagweithiol a hefyd amlygu'r ymgyrch ‘Look Closer’, a ddatblygwyd gennym ochr yn ochr â Chymdeithas y Plant.
“Ei nod yw codi ymwybyddiaeth o gamfanteisio ar blant ac mae'n annog staff y rheilffyrdd a'r cyhoedd i sylwi ar yr arwyddion bod rhywun yn cael ei ecsbloetio a rhoi gwybod i ni am eu pryderon bob amser.
“Os gwelwch arwyddion bod rhywun yn cael ei ecsbloetio ar y rheilffordd, tecstiwch ni ar 61016. Nid oes unrhyw adroddiad sy'n rhy fach nac yn ddibwys - byddwn ni bob amser yn eich cymryd o ddifrif.”
Dywedodd James Simmonds-Read, Rheolwr Rhaglenni Cenedlaethol yn rhaglen Atal Cymdeithas y Plant: “Mae ysglyfaethwyr yn paratoi plant ag arian parod, anrhegion, cyffuriau ac alcohol, cyfeillgarwch a statws - yna maent yn defnyddio bygythiadau a thrais dychrynllyd i'w hecsbloetio i gario cyffuriau mewn ' gweithrediadau llinellau cyffuriau' neu ar gyfer camfanteisio rhywiol neu lafur.
“Efallai na fydd pobl ifanc yn gofyn am help oherwydd eu bod wedi cael eu trin i feddwl eu bod yn gwneud dewis neu oherwydd eu bod yn rhy ofnus i godi llais. Rhaid i ni beidio â dwyn plant yn gyfrifol am atal eu hecsbloetio eu hunain ond yn hytrach dylem weithio gyda'n gilydd fel cymdeithas i'w atal rhag digwydd iddynt.”
Cafodd Tasglu Llinellau Cyffuriau BTP - tîm heddlu sy’n ymroddedig i fynd i’r afael â throseddwyr trefnedig sy’n defnyddio’r rheilffordd i gludo cyffuriau - ei sefydlu gyda chyllid y Swyddfa Gartref ym mis Rhagfyr 2019.
Un o nodau allweddol y tîm yw nodi a diogelu plant ac oedolion agored i niwed sydd yn aml yn cael eu hecsbloetio gan y troseddwyr hyn i gludo cyffuriau ac arian parod rhwng lleoliadau mewnforio ac allforio.
Hyd yn hyn, mae'r Tasglu wedi gwneud mwy na 1,500 o arestiadau, wedi atafaelu bron i 1,000 swm o gyffuriau, wedi gwneud 85 o atgyfeiriadau i'r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Diogelu ac wedi sicrhau 18 cyhuddiad o dan y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern.
Yn gynharach y mis hwn ymddangosodd tri o bobl yn y llys wedi’u cyhuddo mewn cysylltiad â throseddau o dan y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern a chyflenwi cyffuriau ar ôl i fachgen 16 oed gael ei ganfod yn meddu ar gyffuriau Dosbarth A ar y rheilffordd.