Prif Gwnstabl newydd BTP yn ymuno â swyddogion rheng flaen ar ei diwrnod cyntaf
Cynnwys y prif erthygl
Prif Gwnstabl newydd Lucy D'Orsi â swyddogion ar y rheng flaen yng ngorsaf Birmingham New Street
Heddiw ymunodd Prif Gwnstabl newydd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) Lucy D'Orsi â swyddogion ar y rheng flaen yng ngorsaf Birmingham New Street yn ystod ei diwrnod cyntaf i weld drosti ei hun sut mae swyddogion yn atal troseddu, yn amddiffyn y cyhoedd ac yn cadw'r rheilffordd yn ddiogel.
Pan yw hi yn Birmingham, mae Prif Gwnstabl D'Orsi hefyd yn cwrdd â staff o Ganolfan Gyswllt Gyntaf ac Ystafell Reoli BTP, sy'n delio ag oddeutu 290,000 o alwadau gan y cyhoedd a gwasanaethau brys eraill bob blwyddyn.
Mae penodiad Prif Gwnstabl D'Orsi yn golygu mai hi yw’r Pennaeth benywaidd cyntaf yn hanes BTP, ac mae'n ffaith ei bod wedi ymuno’n cyd-fynd yn briodol â Mis Hanes Menywod.
Wrth siarad ar ei diwrnod cyntaf fel Prif Gwnstabl BTP, dywedodd Lucy D'Orsi:
“Rwy’n falch iawn o ddechrau yn fy rôl newydd fel Prif Gwnstabl Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Mae'n fraint cwrdd â swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yn Birmingham a chlywed am y gwaith rhagorol maen nhw'n ei wneud bob dydd i atal troseddu, amddiffyn y cyhoedd a chadw'r rheilffordd yn ddiogel.
“Rwy’n edrych ymlaen at glywed a dysgu gan lawer mwy o fy nghydweithwyr ledled Cymru, Lloegr a’r Alban yn ystod yr wythnosau nesaf, yn ogystal â siarad â’r diwydiant rheilffyrdd i drafod fy mlaenoriaethau ac amlinellu sut y byddwn ni'n parhau i ddarparu rheilffordd diogel a sicr i deithwyr wrth i gyfyngiadau Coronafeirws gael eu codi’n raddol.”
Mae Prif Gwnstabl D'Orsi yn gweithio'n agos gyda busnesau'r DU, ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith milwrol a rhyngwladol y DU.Hi hefyd yw arweinydd Cenedlaethol yr Heddlu ar gyfer galluoedd Taser a Gwrth Drôn.
.