Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn cynnal y 60fed Treialon Cŵn Heddlu Cenedlaethol blynyddol rhwng 11 a 14 Mai yn Swydd Gaerloyw.
Cynhelir y digwyddiad ar Stad Bathurst, Cirencester, a bydd cŵn heddlu a’u trinwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig yn cystadlu mewn cyfres o dreialon gan gynnwys ystwythder, chwilio ac ufudd-dod.
Bydd PD Indie (yn y llun isod) yn cynrychioli Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn y gystadleuaeth.
Bydd y digwyddiad yn agored i aelodau'r cyhoedd ar ddydd Sadwrn 14 Mai. Bydd rhodd fechan o £5 y car i fynychu, a fydd yn cael ei roi i Gronfa Les Cŵn y Rheilffordd a’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Anifeiliaid Milwrol sydd wedi Ymddeol. Ni fydd yn ofynnol i drigolion lleol sy'n cyrraedd ar droed wneud cyfraniad.
Dywedodd yr Arolygydd Paul Miles: “Rydym wrth ein bodd yn cynnal y 60fed Treialon Cŵn Heddlu Cenedlaethol ac yn hynod ddiolchgar i’r Arglwydd a’r Fonesig Bathurst am letya’r digwyddiad yn eu hystâd syfrdanol. “Mae cŵn pwrpas cyffredinol yn ased hynod werthfawr o ran atal troseddu a chadw pobl yn ddiogel, a bydd pawb sy’n cystadlu yn arddangos sgil, rheolaeth a disgyblaeth o’r safon uchaf.
“Mae paratoadau wedi hen ddechrau ar gyfer mis Mai ac edrychwn ymlaen at yr hyn a fydd yn ddiamau yn ddigwyddiad gwych!”
British Transport Police will host the 60th annual National Police Dog Trials from 11 to 14 May in Gloucestershire.
The event will be held at Cirencester Park, and see police dogs and their handlers from across the United Kingdom compete in a series of trials including agility, searching and obedience.
PD Indie (pictured below) will be representing British Transport Police in the competition.
The event will be open to members of the public on Saturday 14 May. There will be a small donation of £5 per car to attend, which will be donated to the Railway Dogs Benevolent Fund and National Foundation for Retired Service Animals. Local residents who arrive on foot will not be required to make a donation.
Inspector Paul Miles said: “We are thrilled to be hosting the 60th National Police Dog Trials and incredibly grateful to the Bathurst family for accommodating the event in their stunning estate.
“General purpose dogs are an extremely valuable asset in deterring crime and keeping people safe, and all of those competing will be showcasing skill, control and discipline of the highest standard.
“Preparations are well under way for May and we look forward to what will no doubt be a wonderful event!”