Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Meddai Sean O’Callaghan, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig:
“Mae cyfarwyddyd y Llywodraeth yn glir - arhoswch gartref, amddiffyn y GIG, achub bywydau. Fel sydd wedi digwydd trwy gydol y pandemig, bydd ein swyddogion yn cynnal patrolau amlygrwydd uchel i atgyfnerthu'r neges hon yn ogystal â chefnogi staff a theithwyr y rheilffordd, gan sicrhau bod y rhai sydd angen defnyddio'r rheilffordd yn ddiogel.
“Bydd swyddogion yn parhau i ymgysylltu â theithwyr, gan ofyn cwestiynau er mwyn sefydlu amgylchiadau eu taith ac yn egluro’r rheoliadau sydd ar waith i gadw pob un ohonom yn ddiogel. Gall y rhai y nodwyd nad oes ganddynt reswm cyfreithlon i fod i ffwrdd o’u cartref ddisgwyl derbyn hysbysiad cosb benodedig.”
“Rwy’n annog unrhyw un sy’n bwriadu gadael eu cartref dan esemptiad i ystyried a yw teithio’n wirioneddol hanfodol, ac os nad yw, arhoswch yn lleol, os gwelwch yn dda. Mae hwn yn amser anodd i bob un ohonom, ond mae'r cyfyngiadau hyn ar waith i amddiffyn y GIG ac achub bywydau.”
Gwybodaeth bellach
Gallwch ddarllen y canllawiau ar gyfer cyfyngiadau symud Lloegryma
Atgoffir aelodau'r cyhoedd sydd angen gadael eu cartref a theithio o'r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar gludiant cyhoeddus. oni bai eu bod wedi'i eithrio, ac i gadw pellter cymdeithasol gystal â phosibl.