Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:43 15/12/2020
Mae'r rhain yn batrolau anrhagweladwy, amlwg iawn ac wedi'u harwain gan gudd-wybodaeth sy'n tarfu ar ystod eang o weithgareddau troseddol, gan gynnwys terfysgaeth, ac ar yr un pryd yn darparu presenoldeb calonogol i deithwyr.
Mae swyddogion Prosiect Servator wedi'u hyfforddi'n arbennig i adnabod unigolion a allai fod yn cynllunio neu'n paratoi i gyflawni trosedd. Gall hyn amrywio o rywun yn dwyn o siopau mewn gorsaf i unigolyn sy'n cynnal rhagchwilio gelyniaethus wrth baratoi ar gyfer ymosodiad terfysgol - mae'r arwyddion arferol sy'n dod â nhw i sylw swyddogion yr un peth.
Fe'u cefnogir gan ystod o adnoddau arbenigol, megis heddlu arfog a chŵn chwilio, heb sôn am dros 150,000 o gamerâu teledu cylch cyfyng ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd.
Mae Prosiect Servator yn cynnwys gweithio gyda heddluoedd eraill, busnesau, cwmnïau gweithredu trenau a'r cyhoedd i adeiladu rhwydwaith o wyliadwriaeth, ac yn sicrhau bod rhwydwaith rheilffyrdd y DU yn lle anodd i droseddwyr a therfysgwyr weithredu.
Ers 2015 bu bron i 650 o arestiadau o ganlyniad i leoliadau Prosiect Servatoe ledled Cymru, Lloegr a'r Alban, sydd wedi gweld popeth o gyllyll a chyffuriau i nwyddau wedi'u dwyn a throseddwyr mae'r heddlu'n chwilio amdanynt yn cael eu tynnu oddi ar y strydoedd.
Dyma rai enghreifftiau diweddar o'r rhain:
:
Gwelwyd dyn yn ymddwyn yn amheus yng ngorsaf danddaearol Wood Lane gan swyddogion Prosiect Servator ym mis Awst. Yn dilyn chwiliad, canfuwyd ei fod yn cario nifer o gyffuriau dosbarth B a chyllell glo. Cafodd ei arestio a'i gyhuddo'n ddiweddarach o fod â chyffur dosbarth B yn ei feddiant a bod â theclyn wedi'i lafnu yn ei feddiant.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Sandra England:“Rydym wrth ein bodd ein bod yn dathlu pum mlynedd o Brosiect Servator yn Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig y mis hwn.
“Mae lleoliadau Prosiect Servator yn hanfodol wrth greu rhwydwaith o wyliadwriaeth ac amgylchedd anodd i derfysgwyr sy'n ystyried eu targedau ac unigolion sy'n ceisio cyflawni troseddau.
“Mae gan bawb sy’n defnyddio'r rheilffyrdd ac yn gweithio ar draws ein rhwydwaith reilffyrdd rôl hanfodol i’w chwarae o ran bod yn llygaid a chlustiau i ni, a hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am eu cefnogaeth barhaus i riportio pethau nad ydynt yn teimlo’n iawn iddyn nhw.
“Os ydych chi'n ein gweld ni o gwmpas y lle, dewch i ddweud helo a dysgu rhagor am y gwaith rydym yn ei wneud i'ch cadw chi'n ddiogel.”
Gallwch riportio unrhyw beth amheus trwy siarad â heddwas neu aelod o staff y rheilffyrdd, neu drwy anfon neges destun atom yn gynnil ar 61016. Mewn argyfwng, ffoniwch 999