Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) fydd yr heddlu cyntaf yn y DU i ddefnyddio swyddogion heddlu arbennig ("Swyddogion Arbennig") yng Nghymru a Lloegr gyda dyfeisiau Taser.
Heddiw, dydd Gwener 28 Mai, bydd rhai Swyddogion Arbennig BTP ar ddyletswydd ledled y wlad yn cario Taser i'w cynorthwyo ymhellach i gadw'r cyhoedd, staff y rheilffyrdd a'u hunain yn ddiogel.
Daw'r cyflwyniad wrth i'r llu ymateb i risgiau sy'n gysylltiedig â throseddau terfysgaeth, diogelwch y cyhoedd a threfn gyhoeddus ar draws y rheilffordd.
Mae'r garfan gyntaf o 22 Swyddog Arbennig i gyd wedi cwblhau cwrs hyfforddi tri diwrnod yn llwyddiannus ar ddefnydd y ddyfais ochr yn ochr â Chwnstabliaid yr Heddlu.
Dywedodd Prif Swyddog y Swyddogion Arbennig, Ben Clifford: "Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu bod y llu cyntaf yn y wlad i ddefnyddio Swyddogion Arbennig â Taser yn weithredol. Mae ein Swyddogion Arbennig yn agored i'r un risgiau yn union â swyddogion rheolaidd ac maent yn rhan hanfodol o'n gweithlu rheng flaen.
"Mae caniatáu iddynt gario'r ddyfais yn gam cadarnhaol o ran cydnabod sgiliau a chymhwysedd ein swyddogion rhan-amser, gwirfoddol ac mae'n cryfhau ymhellach ein hymrwymiad i sicrhau bod y rheilffordd yn amgylchedd diogel i deithwyr a gweithwyr rheilffordd.
"Rydym yn delio'n rheolaidd â digwyddiadau gryn bellter o wasanaeth wrth gefn mewn lleoliadau anghysbell, ac mae gan Taser le hanfodol i ddiogelu'r cyhoedd a swyddogion fel dyfais lai marwol.
"Mae tua thraean o swyddogion BTP wedi'u hyfforddi i gario Tasers ac mae ein Swyddogion Arbennig wedi derbyn yr un hyfforddiant cynhwysfawr â swyddogion rheolaidd."
Swyddogion gwirfoddol yw swyddogion arbennigu sydd â'r un pwerau â swyddogion rheolaidd ac sy'n rhan annatod o bersonél rheng flaen BTP.
Maent yn gweithio o leiaf 16 awr y mis ac yn cael eu defnyddio ysgwydd wrth ysgwydd gyda swyddogion rheolaidd, gan fynychu'r un digwyddiadau ar draws rhwydweithiau rheilffyrdd Cymru, Lloegr a'r Alban.
Mae'r llu'n cyflogi 270 o Swyddogion Arbennig, rhai ohonynt wedi bod yn eu swyddi ers dros ddau ddegawd. Yn 2021 fe wnaethant wirfoddoli dros 100,000 o oriau ar ddyletswydd i gadw'r rhwydwaith a'n cymunedau'n ddiogel.