Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 30 oed o Lambeth wedi cael ei arestio ar amheuaeth o 46 cyfrif o ddifrod troseddol yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Fe'i arestiwyd mewn cysylltiad â difrod graffiti sylweddol ar y rheilffordd ar draws Llundain a'r De-ddwyrain, a ddigwyddodd rhwng Medi 2020 a Mehefin 2021.
Achosodd y troseddau werth tua £110,000 o ddifrod i eiddo rheilffordd, gan gynnwys gorsafoedd a depos trenau.
Cynhaliodd swyddogion o uned chwilio arbenigol BTP a'r tîm graffiti y cyrchoedd mewn dau gyfeiriad ar ddydd Mercher 16 Mehefin, un yn Ne Llundain a'r llall yng Nghaint, yn ogystal â chwilio cerbyd.
Mae'r dyn, sydd hefyd wedi'i arestio ar amheuaeth o feddiannu cyffuriau dosbarth A a dosbarth B, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tan fis Gorffennaf tra'n aros am ymchwiliad pellach.
Mae gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig dîm sy'n ymroddedig i fynd i'r afael â graffiti ar y rheilffordd. Mae swyddogion yn cynnal patrolau rhagweithiol ac ymgyrchoedd arbenigol i dargedu ac arestio troseddwyr, gan gynnwys defnyddio teledu cylch cyfyng pellgyrhaeddol ar draws y rhwydwaith i nodi rhai sydd dan amheuaeth.
Dywedodd Prif Arolygydd BTP, Stuart Middlemas: "Mae ymchwiliadau fel y rhain yn hollbwysig i genhadaeth BTP i fynd i'r afael â graffiti ar draws y rhwydwaith.
"Mae'r fandaliaeth yn mynd ymhell y tu hwnt i edrych yn hyll, mae ganddi oblygiadau ariannol enfawr i'r diwydiant rheilffyrdd ac mae'n achosi oedi rhwystredig i deithwyr tra bod trenau'n cael eu tynnu allan o wasanaeth i'w glanhau.
"Nid yn unig hyn, mae troseddwyr hefyd yn peryglu eu bywydau drwy dresmasu ar y rheilffordd, sy'n gallu arwain at ganlyniadau sy'n newid bywydau neu sy'n angheuol.
"Ni fydd yn cael ei oddef a byddwn yn parhau i redeg ymgyrchoedd pwrpasol i dargedu'r math hwn o drosedd."