Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:46 21/09/2020
Mae BTP (Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig) wedi penodi Prif Uwch-arolygydd newydd a fydd yn Arweinydd y llu ar Ymddiriedaeth, Cyfreithlondeb a Chysylltiadau Cymunedol.
Bydd Dennis Murray yn ymuno â'r llu ar secondiad gan Heddlu Swydd Northampton lle mae ar hyn o bryd yn Uwch-arolygydd a Chomander Ardal Plismona Leol.
Yn y rôl sydd newydd ei chreu bydd Dennis yn arwain ar gynllun gweithredu hil y llu o'r enw 'Symud y Nodwydd.' Mae'n nodi ein hymrwymiad i fynd i'r afael â hiliaeth, tuedd a rhagfarn, a bydd Dennis yn helpu i lywio ein hymagwedd ac adeiladu ar berthnasoedd cadarnhaol â theithwyr a staff y rheilffyrdd.
Ymunodd Dennis â Heddlu Swydd Northampton ym 1992 fel Cwnstabl Arbennig, ac mae wedi gweithio ar draws sawl maes gan gynnwys troseddu, cudd-wybodaeth a diogelwch cymunedol. Yn 2004, daeth yn Swyddog Troseddau Casineb, gan ennill Cwpan Coffa David Ryan am ei waith ymgysylltu â chymunedau Mwslimaidd ledled Swydd Northampton.
Bydd yn cychwyn ar ei rôl yn BTP ar 2 Tachwedd.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Paul Crowther:“Rwyf yn hynod falch o groesawu’r Prif Uwch-arolygydd Dennis Murray i arwain y gwaith pwysig hwn.
"Bydd ei brofiad a'i fewnwelediad, a gafwyd trwy weithio'n helaeth gyda chymunedau amrywiol i sicrhau bod plismona yn effeithiol ac yn gymesur, yn ased mawr i BTP
"Arddangosodd Dennis ei fod yn wir ddeall yr hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni. Mae ganddo'r sgiliau arwain personol a'r ysfa i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes ar y gweill yn y Llu ac i helpu i fynd â ni i'r lefel nesaf a thu hwnt."
"Mae llawer i'w wneud, a bydd Dennis yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni'r newid rydym yn ei geisio."