Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw, cyhoeddodd Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTPA) fod Alistair Sutherland QPM wedi'i benodi'n Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP). Bydd yn ymuno â BTP yn Hydref 2021.
Ar hyn o bryd Alistair yw'r Comisiynydd Cynorthwyol ar gyfer Heddlu Dinas Llundain. Bydd Dirprwy Brif Gwnstabl presennol BTP, Adrian Hanstock QPM, yn ymddeol ym mis Hydref 2021 ar ôl 37 mlynedd o wasanaeth rhagorol i blismona'r DU, ac mae'r saith blynedd olaf wedi bod gyda'r Llu.
Ymunodd Alistair â'r Gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd ym 1986. Mae wedi gweithio ar draws nifer o fwrdeistrefi yn Llundain gan gynnwys Lambeth, Hounslow a Kensington ac mae ganddo arbenigedd mewn plismona digwyddiadau trefn gyhoeddus mawr a gweithrediadau arfau tanio'r heddlu, diogelwch ac ymateb. Cafodd ei ddyrchafu'n Gomander ym mis Gorffennaf 2014 ar ôl cwblhau'r Cwrs Gorchymyn Strategol yn llwyddiannus, ac ymgymerodd â rôl Comander ar gyfer Diogelu'r Frenhiniaeth, Diplomataidd ac Arbenigol. Yn ystod y cyfnod hwn, arweiniodd ef ar gyfuno'r gorchmynion Diogelu gan arwain ar gyflwyno Gorchmynion y Frenhiniaeth a Diogelu Arbenigol a Gorchmynion Diogelu Seneddol a Diplomataidd.
Ymunodd Alistair â Heddlu Dinas Llundain yn 2016 ac ar hyn o bryd mae ganddo'r portffolios plismona Cenedlaethol ar gyfer Troseddau Busnes, Cynllun Achredu Diogelwch Cymunedol, Diwydiant Diogelwch Preifat a Phrosiect Servator. Ef yw'r arweinydd cenedlaethol ar gyfer Gorchymyn a Rheoli Gwrthderfysgaeth ac mae hefyd yn Gyfarwyddwr Cwrs ar gyfer Cwrs y Comander Gwrthderfysgaeth.
MaeAlistair yn dweud: "Rwy'n teimlo'n hynod falch o fod yn ymuno â BTP fel Dirprwy Brif Gwnstabl ar adeg gyffrous iawn i'r Llu. Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda'r Prif Gwnstabl a'r holl gydweithwyr BTP yn genedlaethol i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n holl gymunedau ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd a'u cadw'n ddiogel. Mae BTP, a hynny'n gwbl briodol, yn uchel ei barch fel Llu ac yn cael eu cydnabod fel arweinwyr cenedlaethol a byd-eang yn eu maes Plismona. Rwyf wedi ymrwymo i wella'r enw da hwnnw drwy weithio'n agos gyda chydweithwyr a'n partneriaid i gyflawni'r holl uchelgeisiau a ddisgrifir yn ein Cynllun Plismona."
Meddai Cadeirydd BTPA, Ron Barclay-Smith,: "Bydd arbenigedd sylweddol a phrofiad eang Alistair ar draws pob lefel o blismona yn ei wasanaethu'n dda ar adeg pan fo BTP yn wynebu sawl her o ran amgylchedd gweithredu cymhleth. Rydym yn ei groesawu ac yn credu y bydd ei arweinyddiaeth, ei fewnwelediad a'i graffter yn ategu arweinyddiaeth y Prif Gwnstabl, gan ysgogi BTP ymlaen i gyflawni lefel uwch fyth o ragoriaeth."
Meddai Prif Gwnstabl BTP, Lucy D'Orsi: "Rwyf wrth fy modd bod Awdurdod yr Heddlu wedi penodi Alistair i fod yn Ddirprwy Brif Gwnstabl BTP. Mae Alistair yn uwch arweinydd heddlu hynod brofiadol sy'n poeni'n angerddol am ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i'r cyhoedd a chefnogi ei gydweithwyr. Yr wyf yn sicr y bydd ei ymroddiad a'i brofiad helaeth o arwain gweithredol a sefydliadol yn dod â gwerth mawr i'r Llu.
Rwy'n gwybod bod Alistair yn awyddus i adeiladu ar yr etifeddiaeth y mae Adrian Hanstock yn ei gadael. Mae arnom ddiolchgarwch mawr i Adrian am ei arweinyddiaeth a'i ymrwymiad eithriadol i wasanaeth cyhoeddus ac yr wyf yn bersonol ddiolchgar am ei gefnogaeth a'i ddoethineb ers imi fod yn Brif Gwnstabl.
Mae BTP yn heddlu cenedlaethol gwirioneddol ragorol gyda llawer o heriau a chyfleoedd cyffrous o'n blaenau. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Alistair."
CafoddAlistair ei ddewis yn dilyn proses cyfweld ac asesu dan arweiniad BTPA, y corff goruchwylio ar gyfer y BTP. Cymeradwywyd y penodiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth Grant Shapps AS ac fe'i cymeradwywyd gan Weinidog Cyfiawnder yr Alban, Keith Brown MSP.