Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae difrod i eiddo rheilffordd wedi rhedeg i filoedd o bunnoedd o ran dinistrio peiriannau gwerthu yn yr orsaf a difrod i sgrîn wynt trên ar ôl i gerrig gael eu taflu.
Yn ogystal â hyn, mae adroddiadau am dresmasu a digwyddiadau a fu bron â digwydd ar y lein wedi cynyddu pryderon am ddiogelwch.
Mae swyddogion wedi cynyddu patrolau amlygrwydd uchel a dillad plaen yn yr ardal ac wedi siarad â grwpiau ond maent bellach yn galw ar rieni i chwarae eu rhan i atal difrod pellach neu anafiadau difrifol.
Dywedodd PC Roy Pervical o’r tîm rhagweithiol: “Mae digwyddiadau diweddar o ddinistrio pryfoclyd yn Elsecar yn golygu bod angen dybryd i ni ymgysylltu â phobl ifanc yn yr ardal yn ogystal â rhybuddio rhieni i fod yn ymwybodol o ble maeeu plant a beth maent yn ei wneud.
“Ar wahân i gost y difrod, mae adroddiadau pryderus o dresmasu yn golygu ei bod yn hanfodol ein bod yn cyflathrebu peryglon camddefnyddio’r rheilffordd.
“Oherwydd Covid-19, nid ydym wedi gallu cynnal ein hymweliadau arferol ag ysgolion felly rydym yn archwilio ffyrdd newydd o gyflwyno'r neges hon ac yn gweithio gyda'n cydweithwyr yn Heddlu De Swydd Efrog, yr awdurdod lleol ac ysgolion.
“Nid yw’r rheilffordd yn faes chwarae. Bob tro mae rhywun yn crwydro ar y rhwydwaith reilffyrdd maent mewn perygl o gael anaf difrifol sy'n peryglu bywyd. "Os gwelwch yn dda, arhoswch oddi ar y cledrau.”
dywedodd Tony Baxter, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Northern: “Mae’n anodd deall y byddai unrhyw un yn cyflawni fandaliaeth mor ddifeddwl. Yn anffodus mae'r difrod y mae'r ychydig bobl hyn yn ei achosi yn rhy real ac yn effeithio ar ein cwsmeriaid yr amharir ar eu teithiau o ganlyniad.
“Rydym yn croesawu’r patrolau ychwanegol gan gydweithwyr yn Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â nhw i helpu i ddod â’r rhai sy’n gyfrifol o flaen eu gwell.”