Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Darganfu swyddogion BTP werth £150,000 o nwyddau wedi'u dwyn yr wythnos hon, yn ystod cyrchoedd i ddatgelu lladradau metel yn Ne Swydd Efrog.
Datgelodd y cyrch yn Rotherham, a gefnogwyd gan y Cyd-uned Troseddau Gwastraff, eitemau wedi'u dwyn gan gynnwys peiriant torri gwair a sglodiwr coed gwerth dros £25,000 a oedd wedi'i ddwyn yr wythnos diwethaf.
Cafodd eitemau pellach a gafodd eu dwyn o fyrgleriaethau a lladradau lluosog ar draws y rhanbarth eu hatafaelu a'u dychwelyd hefyd gan wneud cyfanswm y nwyddau a adenillwyd rhwng £140,000 - £150,000.
Mewn ail gyrch yng Ngogledd Swydd Lincoln, cafodd glanhawr diwydiannol wedi'i ddwyn ei adennill gwerth £4,500.
Uwch-arolygydd BTP Mark Cleland: "Ein dull o fynd i'r afael â throseddau metel yn y diwydiant gwastraff fu gweithio gyda phartneriaid gorfodi a'r seilwaith cenedlaethol i darfu ar droseddu a nodi'r rhai sy'n defnyddio'r diwydiant gwastraff i symud eiddo sydd wedi'i ddwyn.
"Yn ystod y 18 mis diwethaf gan ddefnyddio'r dull hwn, rydym wedi gwneud cannoedd o arestiadau ac wedi adennill miloedd o eitemau o eiddo wedi'i ddwyn.
"Byddai perchennog y peiriant torri gwair wedi gorfod talu dros £25,000 na allai ei fforddio, ac roedd yn mynd i ddirwyn y busnes i ben nes iddo dderbyn yr alwad ffôn yr wythnos hon ei fod wedi cael ei adennill gan ein swyddogion.
"Mae'r sector gwastraff yn allweddol i gadw'r wlad i redeg ac rydym yn parhau i gefnogi'r rhai sy'n rhedeg busnesau cyfreithlon. I bawb arall, rydym yn edrych arnoch, byddwn yn parhau i wneud arestiadau, atafaelu asedau troseddol a chau gweithrediadau anghyfreithlon."
Ychwanegodd llefarydd ar ran y Cyd-uned Troseddau Gwastraff: "Mae'r gwaith hwn, a gefnogir gan y Cyd-uned troseddau gwastraff, unwaith eto yn dangos ein hymrwymiad parhaus i ddwyn ynghyd sgiliau, galluoedd ac adnoddau partneriaid i dargedu troseddwyr a'u rhwydweithiau.
"Byddwn yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o effeithio ar yr unigolion a'r cwmnïau hynny sy'n defnyddio'r diwydiant gwastraff i gyflawni troseddau, manteisio ar bobl a niweidio'r amgylchedd a mynd ar eu trywydd."
Os gwelwch rywbeth mewn gorsaf reilffordd, cysylltwch â BTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40.
Fel arall, gellir gwneud adroddiadau dienw i Crimestoppers ar 0800 555111.