Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn cau'n dynn ar ymddygiad gwrthgymdeithasol yng ngorsafoedd Cottingham a Beverley ar ôl cyfres o ddigwyddiadau'n ymwneud â thresmasu ac ymosodiadau ar staff.
Mae swyddogion yn parhau i ymweld ag ysgolion yn yr ardal i rybuddio disgyblion am ganlyniadau ymddygiad gwrthgymdeithasol a pheryglon tresmasu ar y rheilffordd.
Dros y misoedd diwethaf mae digwyddiadau yng ngorsafoedd Cottingham a Beverley wedi cynyddu o dresmasu a rhwystro trenau rhag gadael yr orsaf, i ddigwyddiadau mwy difrifol lle mae aelodau'r staff wedi cael eu dychryn ac wedi dioddef ymosodiadau.
Mae mwy o batrolau'n digwydd yn yr ardal, gan gynnwys swyddogion dillad plaen.
Dywedodd PC Dan Smith: "Diogelwch staff y rheilffyrdd yn ogystal â theithwyr yw ein blaenoriaeth a dyna pam rydym yn cynyddu adnoddau yn yr ardal.
"Mae staff y rheilffyrdd yno i wneud gwaith a helpu i sicrhau bod y rheilffordd yn cael ei rhedeg yn ddiogel ac yn effeithlon – mae unrhyw gamdriniaeth a gyfeirir atynt yn drosedd ac ymdrinnir â hi felly, waeth beth fo oedran y troseddwr.
"Mae achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a rhwystro trenau, sy'n eu hatal rhag parhau â'u taith, yn bryder mawr ac ni fyddant yn cael eu goddef.
Meddai: "Mae tresmasu ar y rheilffordd yn golygu hapchwarae gyda marwolaeth. Bob blwyddyn rydym yn delio â channoedd o ddigwyddiadau sy'n aml yn arwain at ganlyniadau trasig. Mae rhwystro trenau yn anhygoel o dwp ac yn hynod o beryglus. Rwy'n annog rhieni i wirio ble mae eu plant yn eu harddegau a'u hatgoffa o'r canlyniadau posibl a'r peryglon amlwg o loetran ger rheilffyrdd."
I riportio trosedd ar y rheilffordd tecstiwch 61016 neu ffonio 0800 40 50 40. Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob amser.
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a Network Rail yn cynnal ymgyrch ddiogelwch drawiadol, You Vs Train, sy'n amlygu'r canlyniadau dinistriol y gall tresmasu ar y rheilffordd eu cael. Dysgwch ragor yn youvstrain.co.uk.