Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae recriwtiaid cïol newydd i Uned Ogleddol Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn profi bod y trwyn bob amser yn gwybod.
Mae PD Ben wedi cynorthwyo ag arestiadau amrywiol ar gyfer dwyn cebl a graffiti ar draws Glannau Mersi a Swydd Gaer yn ogystal ag ateb galwadau ynghylch pryder am les a chwilio am bobl sy'n agored i niwed.
Mynychodd Ben a'i drafodwr PC Dan Worthington adroddiadau o ladrad cebl a oedd yn dal i ddigwydd lle roedd dau unigolyn dan amheuaeth wedi dringo dros ffens i iard gaeedig. Rhedodd y ddau ddyn i ffwrdd pan welsant Ben. Chwiliodd Ben yr iard a dangosodd i'w drafodwr lle'r oedd un dyn dan amheuaeth yn cuddio.
Ddim yn barod i roi'r gorau i'r gwaith eto, yna rhybuddiodd Ben ei gydweithwyr am guddfan yr ail ddyn dan amheuaeth. Arestiwyd y ddau ddyn ar amheuaeth o ddwyn.
Fe wnaeth PD Roxy ynghyd â PD Ben hefyd helpu swyddogion i weithredu gwarant ym Manceinion. Fe wnaethant atal y dyn dan amheuaeth rhag gadael yr eiddo a lleolwyd gwerth cannoedd o filoedd o bunnoedd o offer a pheirianwaith a oedd wedi'u dwyn.
Galwyd PD Benni a’i drafodwr PC Phil Healy i gynorthwyo cydweithwyr yng Nglannau Mersi i ymateb i ddyn a oedd wedi bod yn ymosodol i griw trên ac a oedd yn tresmasu ar y trac.
Wrth i swyddogion geisio dod yn agos at y dyn cododd falast a'i daflu atynt ond cyn gynted ag y gwelodd Benni cydymffurfiodd yn gyflym a chafodd ei gadw gan swyddogion.
Wrth gynnal patrolau prif reilffordd arferol ar Arfordir y Gorllewin cynorthwyodd PD Kooper a'i drafodwr PC Karl Harvey ar ôl i aelod o staff gael ei fygwth yng ngorsaf Runcorn. Gyda'i gilydd, fe wnaethant lwyddo i ddod o hyd i'r troseddwr a'i gadw.
Dywedodd yr Arolygydd Lisa jones: “Mae'r cŵn yn rhan hanfodol o'r gwaith rydym yn ei wneud i atal troseddu ac amddiffyn y cyhoedd. Fel mae'r canlyniadau hyn yn ei ddangos, mae'r cŵn yn ased plismona gwerthfawr ac yn rhan annatod o dîm yr heddlu na allem ymdopi hebddi. Mae'r cŵn yn ffurfio cysylltiad agos na ellir ei dorri â'u tradodwr; gallant synhwyro hwyliau eu cydweithiwr dynol a hyd yn oed ymateb yn union fel y byddai cydweithiwr rheolaidd.”
Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig oedd y llu cyntaf yn y wlad i gyflogi ffrind gorau dyn yn y frwydr yn erbyn troseddu.
Mae'r adran cŵn yn un o'r mwyaf ym Mhrydain â mwy na 50 o gŵn sy'n cael eu defnyddio ar gyfer plismona cyffredinol, yn ogystal â chanfod cyffuriau a ffrwydron.
Mae gan lawer o drafodwyr cŵn fwy nag un ci ac mae gan rai cŵn ddau ddiben.
Mae'r cŵn yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd ac maent yn byw gyda'u trafodwyr.