Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd cannoedd o swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig â diwrnod o weithredu'n targedu ymddygiad rhywiol digroeso ar y rhwydwaith rheilffyrdd, ledled Cymru, Lloegr a'r Alban.
Cynhaliwyd dros dri chant o batrolau wedi'u targedu gan swyddogion dillad plaen a swyddogion mewn iwnifform mewn gorsafoedd ac ar drenau, gan arwain at saith arestiad a sgyrsiau di-ri gyda theithwyr.
Fe'u cefnogwyd gan swyddogion cudd sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i adnabod troseddwyr rhywiol, a chasglu cudd-wybodaeth, sy'n gweithredu ar draws y rhwydwaith yn ddyddiol.
Fe wnaeth swyddogion ymgysylltu â miloedd o deithwyr mewn stondinau ymgysylltu mewn hybiau trafnidiaeth allweddol, gan ddarparu gwybodaeth ar sut i riportio ymddygiad rhywiol digroeso trwy ddefnyddio ein rhif testun cynnil.
Cefnogwyd y diwrnod gweithredu ar 30 Medi gan ddeg ar hugain o bartneriaid, gan gynnwys Transport for London, Network Rail, gweithredwyr trenaua heddluoedd lleol.
Mae mynd i’r afael â throseddu rhywiol yn brif flaenoriaeth i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, ac eleni rydym bron wedi treblu nifer y swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig i ymchwilio i droseddau rhywiol ledled Cymru, Lloegr a’r Alban.
Mae'r swyddogion hyn yn derbyn hyfforddiant arbenigol trylwyr ym meysydd cefnogi dioddefwyr ac ymchwilio i droseddau rhywiol, gan gynnwys cam-drin plant yn rhywiol a throseddu rhywiol ar-lein.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Sarah White: “Yn ogystal â phatrolau wedi’u targedu, cawsom gyfle i gael miloedd o sgyrsiau gyda theithwyr ar ddydd Mercher, gan eu hannog i fod â’r hyder i riportio ymddygiad rhywiol digroeso i ni.
“Mae ymddygiad rhywiol digroeso yn unrhyw beth sy’n gwneud i berson deimlo’n anghyfforddus, ac ni allaf bwysleisio digon nad oes unrhyw ddigwyddiad yn rhy fach nac yn ddibwys. Byddwn bob amser yn eich cymryd o ddifrif.
"Mae pob adroddiad a dderbyniwn yn darparu gwybodaeth werthfawr i ni y gallwn ei defnyddio i adeiladu darlun o droseddwr. Yn aml mae'n caniatáu i ni sylwi ar batrwm o ymddygiad troseddol ac yna gweithredu.
"Rydym am i bawb wybod eu bod nhw'n gallu anfon neges destun atom yn gynnil ar 61016, p'un a yw rhywbeth yn digwydd i chi ar y pryd neu wedi digwydd i chi'n ddiweddar. Gall ein hystafell reoli anfon swyddogion i leoliad os oes angen, neu eich rhoi mewn cysylltiad â swyddog i siarad ar amser cyfleus. Cadwch 61016 yn eich ffôn, fel bod gennych y rhif wrth law pe byddech chi byth ein hangen ni."
Dywedodd Jacqueline Starr, Prif Swyddog Gweithredol y Grŵp Cyflenwi Rheilffyrdd sy’n cynrychioli gweithredwyr trenau a Network Rail: “Mae’r risg o brofi trosedd ar y rheilffordd yn isel iawn ond mae atal ymddygiad rhywiol digroeso yn rhywbeth y mae cwmnïau rheilffyrdd yn ei gymryd o ddifrif.
“Rydym yn gwybod pan yw'r troseddau hyn yn digwydd, mae llawer yn mynd heb eu riportio a dyna pam mae gweithredwyr trenau'n paratoi ymgyrchoedd newydd i annog riportio a fydd yn helpu'r BTP i ddal y rhai sy'n gyfrifol.”