Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ni fydd ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 3am a 7am ar ddydd Iau, 22 Hydref tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Bydd y wefan hefyd allan o wasanaeth am tua phum munud rywbryd yn ystod y cyfnod hwn.
Os oes angen i chi riportio trosedd yn ystod y cyfnod hwn, ffoniwch ni ar 101, neu 999 mewn argyfwng.
Wrth i'r cyfrif i'r Nadolig barhau, mae Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig allan mewn grym, yn edrych allan amdanoch chi ac yn eich cadw'n ddiogel, 24/7.
Ac i'r rhai sy'n bwriadu defnyddio'r rheilffordd gyda bwriad troseddol - byddai'n well i chi fod yn wyliadwrus ... Rydyn ni'n dod ar eich ôl chi.
Bydd swyddogion yn gweithio ar draws y rhwydwaith gyda mwy o batrolau amlygrwydd yn ogystal â nifer o offer eraill yn ein stordy i ymladd yn erbyn troseddu.
Bydd swyddogion cudd yn chwilio am ladron pocedi sy'n ffynnu mewn amgylcheddau prysur ac yn annog teithwyr i gadw llygad ar eu heiddo ar drenau ac mewn gorsafoedd.
Byddwn hefyd yn edrych allan am unrhyw ddigwyddiadau o ymddygiad rhywiol gwrthgymdeithasol a digroeso, gan annog y cyhoedd i lawrlwytho ap newydd Railway Guardian ac i rriportio unrhyw beth sy'n eu poeni drwy'r ap neu drwy ein rhif testun 61016 cynnil.
Dywedodd yr Uwch Arolygydd Lorna McEwan: "Gyda llai o drenau'n rhedeg dros yr ŵyl oherwydd gweithredu diwydiannol, mae disgwyl i'r gwasanaethau fod yn eithriadol o brysur felly cynlluniwch eich taith orau y gallwch chi.
"Mae pawb yn chwarae rhan wrth gadw'r rheilffordd yn ddiogel ac mae llygaid a chlustiau'r cyhoedd a staff y rheilffyrdd sy'n teithio yn arf hanfodol, drwy riportio unrhyw beth sydd ddim yn teimlo'n iawn.
"Mae ap y Railway Guardian yn helpu'r cyhoedd i riportio troseddau i BTP. Drwy'r ap, gall y cyhoedd decstio 61016 neu riportio drwy wefan BTP.
"Yr adeg yma o'r flwyddyn mae pawb yn teimlo'r pwysau, mae pawb ar frys, ry'n ni i gyd dan straen ond mae'n bwysig cofio ein bod ni gyd yn yr un sefyllfa, felly plîs byddwch yn amyneddgar a chael parch at ein gilydd, yn enwedig staff y rheilffyrdd.
"Mae ein hymgyrch Nadolig i gyd yn ymwneud â sicrhau eich bod yn cael Nadolig hapus; trwy atal troseddu fel bod y rheilffordd yn parhau i fod yn lle diogel i deithio, yn ogystal â rhoi sicrwydd a chyngor diogelwch i deithwyr.
"Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd er mwyn i ni oll gael Nadolig heddychlon a diogel."