Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion yn apelio am dystion i ymosodiad rhywiol a lladrad ar fwrdd trên rhwng Doncaster a Thorne North.
Am oddeutu 2pm ar ddydd Gwener 29 Rhagfyr, roedd y ddioddefwraig ar y trên pan eisteddodd dyn gyferbyn â hi a dechrau ceisio siarad â hi, cyn ymosod yn rhywiol arni.
Llwyddodd y ddioddefwraig i adael ei sedd, gan esgus mynd i'r toiled, er mwyn dod o hyd i archwiliwr tocynnau i gael cymorth. Gadawodd y dyn y trên yn Thorne North.
Wedyn, dywedodd cwpl wrth y ddioddefwraig ei bod yn edrych fel petai'r dyn wedi cyffwrdd â'i bagiau pan oedd hi gyda'r archwiliwr tocynnau. Ar ôl gwirio fe wnaeth hi ddarganfod bod rhai eitemau personol ar goll.
Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag ef.
A welsoch chi'r digwyddiad neu a oes gennych unrhyw wybodaeth a allai helpu'r ymchwiliad? Yn benodol, mae swyddogion yn awyddus i siarad â'r cwpl a ddywedodd wrth y dioddefwr eu bod yn credu bod y dyn wedi cyffwrdd â'i bagiau.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â HTP drwy decstio 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 gyda’r cyfeirnod 328 o 29/12/23.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw drwy ffonio 0800 555 111.