Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
A welsoch chi'r digwyddiadau hyn?
Mae swyddogion yn apelio i dystion ddod ymlaen yn dilyn ymosodiad a chyfres o droseddau trefn gyhoeddus a gyflawnwyd gan dri o bobl ar wasanaeth Jubilee Line.
Ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr am oddeutu 4.30pm riportiwyd bod menyw feichiog yn eistedd ar fwrdd y gwasanaeth pan ddechreuodd dau o'r tri o bobl chwythu mwg fêp yn ei hwyneb. Ar ôl iddi ofyn iddyn nhw stopio, fe wnaethon nhw ei bygwth hi a'i babi. Wrth i'r fenyw feichiog fynd i adael, fe wnaethon nhw geisio ei baglu hi.
Yna dechreuodd y grŵp wneud sylwadau hiliol tuag at fenyw, y credir ei bod yn Asiaidd, yn ogystal â bygwth dwyn ei siopa.
Yn dilyn hyn, fe ddechreuon nhw wneud sylwadau difrïol tuag at deithiwr arall a dangos ystumiau bygythiol i'w ffrind. Wrth iddyn nhw adael y gwasanaeth yng ngorsaf St John’s Wood, fe wnaeth un o’r tri ddyrnu’r ffrind yn ei phen.
Yn ddiweddarach, am oddeutu 4.45pm, riportiwyd bod dioddefwr arall ar y gwasanaeth Jubilee Line yn mynd i Orsaf Dollis Hill pan ddaeth tri o bobl atynt - y credir eu bod yr un bobl - a gafaelodd un ohonynt yn ffôn y dioddefwr a honni ei fod eu ffôn nhw nawr.
Fe wnaethon nhw barhau i aflonyddu ar y dioddefwr a cheisio ei rhwystro rhag gadael y trên. Llwyddodd hi i ddianc a ffonio 999, ac ar yr adeg honno fe wnaeth y tri dan amheuaeth adael y gwasanaeth, ag un ohonynt yn poeri ar wyneb y ddioddefwraig wrth iddynt adael y trên.
Dywedir eu bod wedi gadael y gwasanaeth yn Neasden am 4.51pm.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad hwn gysylltu â BTP drwy ffonio 0800 40 50 40 neu decstio 61016, gan nodi’r cyfeirnod 2300145379.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.